Damwain: Anafiadau difrifol

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion wedi i lanc ddioddef anafiadau difrifol yn dilyn damwain ffordd yn Nhal-y-bont, ger Llanfairfechan, Conwy.

Roedd y llanc ymysg grŵp o gerddwyr ar ffordd yr A55 pan gafodd ei daro gan BMW arian tua 2am fore Sul.

Roedd y llanc yn dioddef o anafiadau difrifol i'w goesau ac fe gafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Chafodd neb arall eu hanafu a stopiodd y car yn y fan a'r lle.

Cafodd un lôn o'r A55 ei chau am nifer o oriau wrth i'r gwasnaethau brys ddelio â'r digwyddiad.

Dylai unrhywun un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 0300 3300101

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.