Buddugoliaeth i Wrecsam

Wrecsam 4 AFC Telford 0

Mae Wrecsam yn dal i arwain Uwchgynghrair Blue Square ar ôl iddynt guro AFC Telford o bedair gôl i ddim ar y Cae Ras ddydd Sul.

Mae'r fuddugoliaeth yn ddigon i gadw Wrecsam ar frig y tabl, dau bwynt yn glir o Fleetwood.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Wrecsam wedi cael rhediad o 14 gem yn ddiguro.

Aeth Wrecsam ar y blaen ar ôl 34 munud wedi i Shane Killock wyro peniad gan Mathias Pogba i rwyd tîm ei hun.

Peniodd Mark Creighton ail gôl y Dreigiau funud yn ddiweddarach cyn i Jake Speight sicrhau'r pwyntiau i'r tîm cartref wedi 74 munud.

Seliodd Cieslewicz y fuddugoliaeth i Wrecsam bedair munud cyn y chwiban olaf.

Tabl Uwchgynghrair Blue Square Bet

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. WRECSAM 26 31 59
2. Fleetwood 26 27 57
3. Luton 26 28 48
4. Southport 27 -2 48
5.Caerefrog 27 26 46
-----------------------------------------------------------------------------------------
19.Stockport 27 -16 23
20.CASNEWYDD 25 -7 22
21. Alfreton 27 -26 22
22. Kettering 27 -33 22
23. Hayes a Yeading 26 -19 21
24. Caerfaddon 25 -23 14

Ionawr 1, 5.15 pm