Damwain: Dyn wedi marw

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion wedi i ddyn 26 oed farw ar ôl damwain gyda thacsi ym Merthyr Tudful.

Fe ddigwyddodd y ddamwain am 10.10pm yng nghanol y dref nos Sadwrn pan fu'r dyn mewn gwrthdrawiad â thacsi Vauxhall Astra du.

Bu farw'r dyn yn ddiweddarach yn yr ysbyty.

Dylai unrhywun â gwybodaeth ynghylch symudiadau'r dyn oedd yng nghwmni menyw, neu symudiadau'r tacsi, cyn y digwyddiad ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.