Gwiwerod coch: Pryder am dacsidermwyr

Wiwer goch Image copyright Other
Image caption Dywedodd yr ymddiriedolaeth nad oedd cyrff gwiwerod coch yn cael eu rhoi iddyn nhw ar gyfer ymchwil

Mae cadwriaethwyr gyda chynllun i adfer gwiwerod coch i Ynys Môn yn poeni bod anifeiliaid sy'n cael eu lladd ar y ffordd yn cael eu cludo at dacsidermwyr.

Dywed Ymddiriedolaeth Wiwerod Coch Cymru eu bod am gael y cyrff am fod eu hangen ar gyfer gwaith ymchwil pwysig.

Yn ôl Dr Craig Shuttleworth o'r Ymddiriedolaeth, mae profion yn cael eu cynnal ar y cyrff fel modd o chwilio am glefydau.

Amcangyfrif y cynllun yw bod rhwng 400 a 500 o wiwerod coch yn byw ar Ynys Môn ar hyn o bryd.

"Rydym yn credu bod pobl yn codi wiwerod coch oddi ar y ffyrdd heb ddweud wrthym," meddai Dr Shuttleworth.

"Yn y gorffennol, rydym wedi gweld achosion o wiwerod yn cael eu cludo at dacsidermwyr, ac mae tri neu bedwar achos wedi bod yn ddiweddar o wirfoddolwyr yn mynd i safle ar ôl clywed adroddiad am weddillion, ond yna'n clywed wedi cyrraedd fod rhywun arall wedi mynd â nhw."

'Gwerth gwirioneddol'

Ychwanegodd ei bod yn bwysig i bob corff gael ei yrru am sgrinio ar gyfer feirysau o bob math.

"Mae hyn o werth gwirioneddol i ni fel prosiect," meddai.

Dywedodd Dr Shuttleworth fod yna farchnad ar gyfer anifeiliaid wedi eu stwffio, ond gan fod y wiwer goch yn rywogaeth sy'n cael ei amddiffyn gan y gyfraith, fe fyddai'n disgwyl i dacsidermwyr ofyn nifer o gwestiynau.

Mae'r cynllun hefyd angen gwybod lle mae'r anifeiliaid yn cael eu lladd, gan fod arian ar gael weithiau i godi pontydd i gynorthwyo wiwerod i groesi ffyrdd.

Daeth yr apêl o fewn wythnos i gyhoeddi cynllun cyfyngedig i ddifa'r wiwer lwyd yng Ngwynedd.

Dywedodd Dr Shuttleworth bod y wiwer goch wedi teithio o Ynys Môn i'r tir mawr, ac er mwyn hybu niferoedd bydd nifer o drapiau'n cael eu gosod rhwng Bangor a'r Felinheli, ac hefyd yn Nyffryn Ogwen.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.