Cynghorwyr yn cytuno i ddymchwel fflatiau yn Y Fflint

Y fflatiau Image copyright Other
Image caption Roedd nifer o gynghorwyr Annibynnol yn pwyso am ailystyried.

Mae cynghorwyr wedi cytuno i ddymchwel 240 o fflatiau deulawr yng nghanol Y Fflint.

Roedd y penderfyniad yng nghyfarfod Cyngor Sir y Fflint ddydd Mercher er bod nifer o gynghorwyr Annibynnol yn pwyso am ailystyried.

Roedd chwe aelod grŵp yr Annibynwyr Newydd wedi dweud bod y penderfyniad yn rhy fuan gan fod tenantiaid am bleidleisio am ddyfodol stoc tai'r cyngor sir cyn bo hir.

Dywedodd y cyngor y gallai'r cynlluniau gael eu "galw i mewn" os oedd o leiaf bedwar cynghorydd yn gofyn am hynny.

Ym mis Rhagfyr cyhoeddodd y cyngor y byddai'r adeiladau o'r 1970au yn cael eu tynnu i lawr cyn codi tai a chyfleusterau cymunedol.

Trosglwyddo

Yn y cyfamser, mae'r 7,500 o denantiaid cyngor am drafod trosglwyddo o berchnogaeth y tai cyngor i landlordiaid cymdeithasol.

Cytunodd cynghorwyr i gefnogi prynwyr cartref drwy ddarparu cronfa £1 miliwn er mwyn darparu indemniad i fenthycwyr.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.