Nathan Cleverly i wynebu Tommy Karpency yng Nghaerdydd

Nathan Cleverly Image copyright Getty Images
Image caption Nid yw Nathan Cleverly wedi colli mewn 23 gornest ers yr un gyntaf yn 2005

Bydd Nathan Cleverly yn amddiffyn ei bencampwriaeth is-drwm y byd yn erbyn Tommy Karpency yng Nghaerdydd ar Chwefror 25.

Dyma fydd y tro cyntaf iddo geisio amddiffyn ei deitl yng Nghymru.

Ceisiodd ei hyrwyddwr, Frank Warren, drefnu gornestau yn erbyn pencampwyr WBA a WBC y byd er mwyn uno'r teitlau.

Ond doedd Beibut Shumenov (WBA) "ddim yn barod" ac mae Bernard Hopkins (WBC) eisoes wedi trefnu gornest arall yn erbyn Chad Dawson.

'Sioe dda'

Dywedodd Cleverly: "Mae Karpency yn edrych fel ymladdwr caled.

"Aeth ei ornest yn erbyn Karo Murat y llynedd i'r diwedd, ac fe gefais i ornest galed yn erbyn Murat hefyd."

Ar ôl curo Aleksy Kuziemski a Tony Bellew, gornest y Cymro 24 oed yn Arena Motorpoint fydd ei gyntaf yng Nghymru ers iddo drechu Joey Vegas ar bwyntiau yn Nhachwedd 2007.

Ers hynny mae Cleverly wedi ymladd yn Llundain, Lerpwl, Las Vegas a Swindon, ond mae'n edrych ymlaen at y chweched gornest yng Nghymru.

"Dyma'r ornest gyntaf ers tro yng Nghaerdydd," meddai Cleverly, "ac rwy'n edrych ymlaen at gynnig sioe dda i 'nghefnogwyr yn erbyn Karpency.

"Rwyf wedi bod yn ymarfer dros y Nadolig ac felly yn ffit eisoes gyda dros saith wythnos cyn yr ornest.

"Mae gen i gynlluniau mawr am eleni a fydd, gobeithio, yn cynnwys gornest i uno'r pencampwriaethau, felly mae'n rhaid i mi gadw'n brysur a churo Karpency mewn steil."

Ar restr detholion y WBA, mae Karpency yn rhif 11 yn y byd, ac mae ganddo 21 buddugoliaeth mewn 24 o ornestau, gan gynnwys 14 cyn y diwedd.

Ond collodd i Murat ym mis Mai 2010, ac yn ei unig ornest ers hynny fe gurodd Andre Hemphill yn y rownd gyntaf yn Chwefror 2011.

Straeon perthnasol