Ymchwiliad wedi tân mewn tŷ yn Y Rhondda

Cafodd person ei achub o dŷ yn Y Rhondda ar ôl tân ddechreuodd yn y cyntedd yn ystod oriau mân bore dydd Iau.

Cafodd aelodau o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i ddiffodd y fflamau yn Stryd Scott, Tynewydd, Treherbert, toc wedi 4am.

Achubwyd perchennog y tŷ oedd heb gael ei anafu.

Bydd yr heddlu ac ymchwilwyr tân yn dychwelyd i'r tŷ i gynnal ymchwiliad yn ddiweddarach.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.