Dwy stryd ar gau oherwydd adeilad anniogel

Cyhoeddodd Cyngor Sir Ddinbych y bydd dwy stryd yn Y Rhyl ar gau am y tro.

Mae Stryd y Dŵr a Crescent Road wedi cau o ddydd Iau Ionawr 5 ymlaen.

Yn ôl y cyngor mae'r ffyrdd wedi cau er mwyn diogelu diogelwch y cyhoedd o ganlyniad i adeilad anniogel.

Y rhannau o'r ffyrdd sydd wedi eu cau yw Stryd y Dŵr o'r gyffordd gyda Rhodfa'r Gorllewin a Stryd Sussex a Crescent Road o'r gyffordd gyda Stryd y Dŵr a chyffordd â Stryd Edward Henry.

Mae llechi wedi disgyn o do adeilad yno.

Mae traffig yn cael ei ddargyfeirio yn yr ardal ar hyd Ffordd Wellington, Heol Y Frenhines a Stryd Sussex.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.