Bachgen 14 oed mewn cyflwr difrifol wedi gwrthdrawid â char

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am dystion ar ôl i fachgen 14 oed gael ei anafu'n ddifrifol wedi gwrthdrawiad rhwng car a beic.

Roedd y gwrthdrawiad ar yr A483 wrth gyffordd Penrhos rhwng Four Crosses ac Arddlin i'r gogledd o'r Trallwng.

Bu'n rhaid cau'r ffordd am chwe awr wedi'r ddamwain tua 4.40pm ddydd Iau, Ionawr 5.

Cafodd yr heddlu eu galw wedi gwrthdrawiad rhwng car Volkswagen Polo du a beic BMX.

"Aed â'r bachgen 14 oed i Ysbyty Brenhinol Yr Amwythig," meddai'r Sarjant Sean Westlake o Uned Blismona Ffyrdd Canolbarth Cymru.

"Cafodd ei drosglwyddo yn ddiweddarach i Ysbyty Plant Birmingham.

"Mae ei gyflwr yn ddifrifol iawn."

Dylai unrhyw dystion neu unrhyw un â gwybodaeth ffonio Gorsaf Heddlu'r Drenewydd ar 101 yn lleol.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.