Gwleidyddion o Corsica yn ymweld â Chymru

Calvi yn Corsica
Image caption Mae gwleidyddion o ynys Corsica yn ymweld â Chymru

Mae gwleidyddion a newyddiadurwyr o ynys Corsica yng Nghymru'r wythnos hon.

Ymhlith y grŵp mae Aelod Seneddol Ewropeaidd o'r ynys, Francois Alfonsi, aelod U Partitu di a Nazione Corsa (Plaid Genedlaethol Corsica).

Un o amcanion y daith yw asesu sut mae modd diogelu iaith leiafrifol a rhoi cyfle iddi ffynnu.

Mae'r grŵp yn ymweld â'r Urdd, S4C ac ysgol Gymraeg yn ystod y daith sy'n para am dridiau.

Hefyd mae'n cwrdd â'r Aelod Seneddol Ewropeaidd Jill Evans a nifer o Aelodau Cynulliad.

'Cefnogi'

"Roeddwn yn falch iawn i gael croesawu François Alfonsi a'n gwesteion o Corsica i ddangos yr hyn yr ydyn ni wedi ei wneud i gefnogi'r iaith Gymraeg," meddai Jill Evans.

"Mae sefyllfa iaith Corsica yn debyg iawn i sefyllfa'r iaith Gymraeg ddechrau'r 1980au.

"Dwi'n gobeithio bod y criw o Gorsica wedi dysgu sut mae datblygu polisïau ym meysydd addysg a darlledu wedi cryfhau sefyllfa'r iaith yng Nghymru."

Ffrangeg yw iaith swyddogol Corsica, ond mae Eidaleg a Chorseg hefyd yn cael eu siarad yno.

Dywedodd UNESCO fod rhyw 160,000 yn siarad Corseg a bod yr iaith 'yn bendant mewn perygl'.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.