'Anhrefn' offer llywio lloeren mewn amlosgfa

Car sat-nav system Image copyright bbc
Image caption Dywed rheolwyr fod lorïau yn dal i achosio problemau ger yr amlosgfa

Mae rheolwyr amlosgfa wedi dweud bod lorïau yn dal i aflonyddu ar wasanaethau angladdau gan eu bod yn defnyddio offer llywio lloeren sydd heb gael eu diweddaru.

Dechreuodd y problemau rai blynyddoedd yn ôl pan newidiodd trefn y ffyrdd ar Ffordd Penprys yn Llanelli ger yr amlosgfa.

Mae nifer o lorïau yn troi i mewn i'r ffordd at yr amlosgfa er nad yw'n addas i lorïau trwm ac er bod Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi gosod arwyddion rhybudd.

Er y bydd y llywodraeth yn trafod problemau tebyg ar draws y DU dywedodd cyfarwyddwr yr amlosgfa, Marjorie Joplin, y byddai hynny'n rhy hwyr.

'Gwrthod'

"Mae miliynau o offer llywio lloeren sy'n cael eu defnyddio bob dydd heb gael eu diweddaru ac mae nifer yn gwrthod gwneud hynny oherwydd y gost," meddai wrth BBC Cymru.

"Does dim gwahaniaeth beth fydd y llywodraeth yn ei wneud oherwydd mae'r offer hyn yn cael eu defnyddio."

Image copyright BBC News online
Image caption Mae arwydd rhybuddio ger yr amlosgfa

Mae arwydd ger yr amlosgfa yn rhybuddio nad yw'r ffordd yn addas ar gyfer cerbydau nwyddau trwm ac fe ddywedodd y cyngor sir y byddai'r mater yn cael ei drafod eto wedi ilyn cynigion y dylid defnyddio ieithoedd eraill er mwyn rhybuddio gyrwyr tramor.

Mewn un wythnos ym mis Medi 2008 aeth 12 cerbyd nwyddau trwm ar hyd y ffordd anghywir at yr amlosgfa.

'Anhrefn'

Mae nifer o gylchfannau a ffyrdd newydd yn yr ardal ers blynyddoedd ac mae sawl lori yn cymryd y tro anghywir wrth geisio mynd i stadau diwydiannol gerllaw'r safle.

"Mae'r cyngor wedi bod yn ddigon caredig i osod arwyddion sy'n dweud wrth yrwyr lorïau nad yw'r ffatrïoedd y maen nhw'n chwilio amdanyn nhw ar y ffordd yma," ychwanegodd Mrs Joplin.

"Ond am fod gyrwyr lori yn defnyddio offer llywio lloeren heb eu diweddaru - rhai ers 10 mlynedd neu fwy - maen nhw'n dal i ddod i'r amlosgfa ac yn achosi anhrefn llwyr weithiau."

Straeon perthnasol