Cwmni Blacks i'w roi yn nwylo'r gweinyddwyr

Siop Blacks Image copyright PA
Image caption Mae'r cwmni yn cynnal 98 o siopau o dan enw Blacks

Mae cwmni siopau Blacks Leisure wedi cadarnhau eu bod yn paratoi i fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Ond, maen nhw'n obeithiol y bydd y rhan fwyaf o'r busnes yn cael ei brynu.

Eu gobaith yw cael eu rhoi yn nwylo'r gweinyddwyr am gyfnod byr yn unig.

Mae gan y cwmni 16 o siopau yng Nghymru, 4 siopa Blacks a 12 siopa Millets.

Fe fydd y cytundeb yn golygu bod y ddyled yn cael ei chlirio ac mae'r cwmni wedi cael eu hatal rhag masnachu ar y Farchnad Stoc.

Dywed y cwmni eu bod wedi derbyn sawl cynnig am y rhan helaetha' o'r cwmni.

Mae disgwyl cyhoeddiad am gytundeb yn y dyddiau nesaf.

Dyledion

Yn y cyfamser fe fydd y siopau yn parhau ar agor.

Mae'r cwmni yn berchen ar 98 o siopau Black; 208 o siopau Millets a brandiau Peter Storm ac Eurohike.

Caiff 3,500 o bobl eu cyflogi gan y cwmni.

Mae gan y cwmni ddyled o £36 miliwn.

Dyweoddd Sports Direct nad oedd ganddyn nhw ddiddordeb i brynu gweddill y cwmni.

Perchnogion newydd?

Mae 'na adroddiadau bod y cwmni dillad chwaraeon Sports Direct, sy'n eiddo i berchennog clwb Pêl-droed Newcastle United Mike Ashley, ar y rhestr fer ar gyfer prynwyr posib.

Prynwyr posib eraill yw Peter Jones o'r gyfres Dragon's Den a chwmni dillad chwaraeon JD Sports.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.