Cyfeiriad newydd i Gymdeithas yr Iaith?

Cymdeithas Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae'r mudiad yn 50 oed eleni

Yn y flwyddyn y mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dathlu ei phenblwydd yn 50 oed mae Cadeirydd y mudiad yn dweud y gallai strwythur y Gymdeithas newid mewn ffordd "radical" yn ystod y flwyddyn.

Mae Bethan Williams hefyd yn dweud fod angen i'r Gymdeithas fod yn "llawer mwy agored a chynhwysol" yn y dyfodol.

Dywed hefyd mai gwrachod y cymunedau Cymraeg eu hiaith ddylai fod yn ganolbwynt i'r ymgyrchu.

Cafodd y mudiad ei sefydlu ym mis Awst 1962, wedi ei symbylu gan ddarlith radio enwog Saunders Lewis ym mis Chwefror yr un flwyddyn.

Wrth geisio mwy o hawliau i siaradwyr Cymraeg a statws swyddogol bu'r Gymdeithas yn rhoi pwyslais ar ymgyrchoedd torcyfraith di-drais ar hyd y degawdau.

Roedd y mudiad yn weithgar iawn yn y 1970au yn y cyfnod ymgyrchu dros sefydlu S4C a sicrhau arwyddion ffyrdd dwyieithog.

Ond mae rhai sylwebyddion yn holi a yw'r un dulliau o brotestio yn addas ar gyfer y ganrif newydd?

Herio

"Mae hen bryd i'r Gymdeithas dderbyn bod rhaid trafod dyfodol ein mudiad, a gwneud ymdrechion pellach i sicrhau ein bod ni'n gweithredu yn y ffordd fwyaf effeithiol posib," meddai Bethan Williams.

Fe fydd hi'n annerch aelodau mewn cyfarfod arbennig yn Aberystwyth ddydd Sadwrn.

"Mae rhaid i ni fod yn agored ac yn barod i newid er lles y Gymraeg, lle bynnag mae hynny yn ein harwain fel mudiad.

"Mae angen i ni ymestyn allan at bawb sy'n poeni am ddyfodol yr iaith Gymraeg, nid unrhyw clique neu ddilyn yr un hen fformiwla achos ein bod ni'n gyfforddus gyda fe.

"Mae llawer iawn wedi newid yng Nghymru dros y degawdau diwethaf, ac mae rhaid i ni fod yn barod i newid hefyd.

Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Un o luniau archif o un o brotestiadau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

"Nid yw'r Gymdeithas erioed wedi ofni herio'r 'status quo'."

Mae Huw Lewis cyn-gadeirydd y Gymdeithas a darlithydd yn adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol Prifysgol Aberystwyth, hefyd yn dweud fod angen holi ynglŷn â strategaeth y mudiad i'r dyfodol.

Strategaeth

"Erbyn heddiw mae'r syniad mai'r gymuned - gwledig neu ddinesig - yw prif ffocws ein bywydau fel unigolyn yn llai cryf nag yr oedd 10 mlynedd yn ôl," meddai Mr Lewis mewn erthygl ar gyfer Sefydliad Materion Cymreig.

Mae o'n dadlau fod polisïau'r Gymdeithas yn hanesyddol wedi eu selio ar y ffaith bod cymunedau o'r fath yn hanfodol er mwyn diogelu'r iaith mewn ardaloedd lle mae dros 60% yn siarad yr iaith.

"Ond, o ystyried newidiadau diweddar a yw'r gymuned leol (sy'n cael ei ddiffinio gan wardiau plwyf neu gyngor) yn uned o bwys wrth i ni benderfynu ar ein strategaeth ar gyfer adfywio'r iaith.

"Pe na bai hyn yn wir, mae angen gofyn sut ydym am geisio sicrhau bod yr iaith yn dal ei thir yn ddaearyddol ac yn gallu ffynnu."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.