Gwasanaeth Iechyd i dalu am fewnblaniadau

Un o'r mewnblaniadau diffygioll Image copyright Reuters
Image caption Mae tua 2,000 o ferched yng Nghymru wedi derbyn mewnblaniadau gan gwmni PIP

Dywed Llywodraeth Cymru y byddant yn talu am driniaeth i gleifion â mewnblaniadau bronnau silicon diffygiol lle mae yna angen am driniaeth glinigol.

Mae tua 2,000 o ferched yng Nghymru wedi derbyn mewnblaniadau gan y cwmni o Ffrainc PIP - y mwyafrif helaeth wedi talu amdanyn nhw'n breifat.

Dywedodd Chris Jones, cyfarwyddwr meddygol Gwasanaeth Iechyd Cymru, eu bod yn dilyn cyngor gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Dywed arolwg nad oedd angen i bawb sydd wedi derbyn y mewnblaniadau gael triniaeth.

Asesu'r sefyllfa

Dywedodd Mr Jones y byddai'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn newid y mewnblaniadau ar gyfer cleifion oedd wedi derbyn y driniaeth yn eu hysbytai.

Ond ychwanegodd ei fod yn gobeithio y byddai clinigau preifat yn gwneud yr un peth ar gyfer cleifion gafodd eu trin ganddynt.

Credir fod 95% o fenywod wedi cael y driniaeth yn breifat a 5% gan y Gwasanaeth Iechyd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r Gwasanaeth Iechyd yn rhoi llawdriniaeth ac yn talu am fewnblaniadau pe bai'r llawdriniaeth wreiddiol wedi ei gwneud ganddynt.

Dywed datganiad pe na bai clinic preifat yn parhau mewn busnes neu eu bod yn gwrthod rhoi gofal i'r claf, yna byddai'r Gwasanaeth Iechyd yn asesu'r sefyllfa.

Pe bai nhw'n teimlo fod cyfiawnhad clinigol, yna byddant yn rhoi llawdriniaeth.

Ond dywed y datganiad na fyddant wedyn yn talu am fewnblaniadau newydd mewn achosion o'r fath.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.