Triniaeth i ddyn wedi ymosodiad yn ei gartref

Dywedodd Heddlu Gwent bod dyn yn cael triniaeth yn yr ysbyty ar ôl ymosodiad arno yn ei gartref.

Mae ymchwiliad wedi cychwyn ar ôl y digwyddiad am 0.50am ddydd Sul yn ardal Allt-yr-yn o Gasnewydd.

Ymosodwyd ar y dyn gan dri dyn.

Does neb wedi cael eu harestio hyd yma.

Mae'r heddlu yn credu bod y dyn wedi cael ei drywanu gan arfau gan gynnwys bat pêl-fasged.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylen nhw gysylltu gyda Heddlu Gwent ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.