Tân M4: Dwy lôn wedi'u cau ger ail Bont Hafren

Mae dwy lôn ar draffordd yr M4, ger yr ail Bont Hafren, wedi cael eu cau wedi i fan fynd ar dân.

Roedd y digwyddiad, i gyfeiriad y gorllewin rhwng cyffordd 22 ar ochr Lloegr o'r bont a chyffordd 23 (M48 Magwyr) wedi achosi i fwg chwythu ar draws y draffordd.

Mae traffig wedi dod i stop ac mae gyrwyr yn cael eu cynghori i fod yn ofalus wrth yrru tuag at yr ardal.

Mae dwy lôn wedi'u cau tua milltir cyn y tollau, ond mae traffig yn symud yn rhwydd yn y drydedd lôn erbyn hyn.

Yn y cyfamser, mae'r gwasanaeth tân yn ceisio diffodd y tân yn y fan.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.