Damwain: Dau ddyn wedi marw

Damwain Bwlch yr Oernant Image copyright BBC news grab
Image caption Credir fod y car wedi taro yn erbyn coeden

Daeth cadarnhad fod dau ddyn ifanc wedi marw a thrydydd wedi ei anafu mewn damwain ym Mwlch yr Oernant ger Llangollen, Sir Ddinbych.

Mae'r trydydd dyn yn Ysbyty Maelor yn Wrecsam.

Cafodd dwy injan dân - un o Langollen ac un o'r Waun - eu hanfon i'r safle hanner milltir o dafarn y Britannia Inn i gyfeiriad Llangollen am 12:38pm.

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu'r Gogledd: "Am 12:36pm ddydd Llun fe gafodd yr heddlu adroddiad am wrthdrawiad ar yr A542 ar ochr Llangollen Bwlch yr Oernant.

"Roedd y Gwasanaeth Ambiwlans a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru hefyd yn bresennol.

"Y gred yw bod tri'n teithio yn y cerbyd. Mae dau - dau ddyn ifanc - wedi marw ac fe gafodd y trydydd anafiadau.

"Mae'r ffordd ar gau ar hyn o bryd ac mae disgwyl iddi fod ar gau am gryn amser. Mae traffig yn cael ei ddargyfeirio."

Dylai unrhyw dystion neu unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r Cwnstabl 450 Aled Jackson yn Uned Blismona Ffyrdd Heddlu'r Gogledd ar 101 neu 0300 3300 101.