Dyn ar goll: Apêl teulu

Michael Murphy Image copyright Other
Image caption Cafodd Michael Murphy ei weld ddiwetha' ddydd Mercher, Ionawr 4

Mae teulu dyn ar goll wedi apelio at rai oedd wedi ei weld yn gadael ei gar ar bont brysur yn Sir y Fflint i gysylltu â'r heddlu.

Cafodd Michael Murphy, 32 oed, ei weld ddiwetha' yn gadael ei waith yn Convatec, Glannau Dyfrdwy, ar ddechrau ei shifft am 6am ddydd Mercher, Ionawr 4.

Wedyn derbyniodd yr heddlu adroddiadau fod goleuadau ei gar Volkswagen Polo coch yn fflachio ger Pont Sir y Fflint yng Nghei Conna am 1:20pm.

Roedd ei ffrindiau'n helpu i chwilio amdano dros y penwythnos.

Mae tudalen wedi cael ei chreu ar wefan gymdeithasol Facebook a mwy na 1,600 o bobl yn ei chefnogi.

Dywedodd y teulu fod cymorth a phryder pobl eraill wedi effeithio'n fawr arnyn nhw.

Mae ei fam, Ann, ac aelodau eraill y teulu wedi apelio at unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru.

"Rydym eisiau ei gael adre'," meddai ei fodryb, Peggy Murphy.

Ychwanegodd nad oedd y diflaniad yn nodweddiadol ohono ond iddo orffen gyda'i gariad cyn y Nadolig.

"Fe aeth â chydweithiwr i'r gwaith, fe gafodd baned ac yna fe ddiflannodd," meddai.

"Y peth nesa' roedd adroddiadau fod ei gar ger y bont. Mae'n rhaid ei fod wedi bod yn brysur. A gafodd ei weld gan unrhyw un?" gofynnodd.

Car coch

Mae'r heddlu, Gwylwyr y Glannau, yr RNLI a thimau achub wedi chwilio amdano ar y tir, a chyda help hofrennydd ac offer tanddwr.

Cafodd ei gerbyd â phlât cofrestru S412 RTG ei ddarganfod ar lôn orllewinol y bont sy'n arwain o Stad Ddiwydianol Glannau Dyfrdwy i'r Fflint am 2pm ddydd Mercher yn dilyn galwad ffôn aelod o'r cyhoedd.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Alun Oldfield: "Rwy'n annog unrhyw un adawodd Stad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy ddydd Mercher i feddwl yn ôl a chysylltu â ni'n syth os ydyn nhw'n cofio gweld car coch, neu unrhyw un yn gadael y car ac yn cerdded ar y bont."

Mae Mr Murphy o'r Wyddgrug ond yn byw yng Nghei Conna yn 5 troedfedd 10 modfedd (1.77m) o daldra, o faint corff canolig a chanddo wallt golau byr sy'n moeli.

Cafodd ei weld ddiwetha' yn gwisgo cap llwyd, côt hir lwyd tywyll, jîns glas ac esgidiau Adidas gwyn gyda thair streipen ddu ar yr ochr.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth am ddiflaniad Mr Murphy ffonio'r heddlu ar 101 neu 0300 3300 101.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.