Hudson: 'Rhaid i Gaerdydd ymosod'

Mark Hudson Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae capten Caerdydd, Mark Hudson, yn gyn chwaraewr gyda Crystal Palace

Bydd capten tîm pêl-droed Caerdydd, Mark Hudson, yn dychwelyd i dir cyfarwydd nos Fawrth gyda'r bwriad o ymosod.

Cafodd Hudson ei arwyddo fel chwaraewr gyda Crystal Palace yn ystod cyfnod Iain Dowie fel rheolwr ym Mharc Selhurst.

Mae gêm nos Fawrth yn allweddol wrth i'r ddau dîm frwydro am le yn rownd derfynol Cwpan Carling yn Wembley.

Mae'r capten wedi annog ei dîm i ymosod er mwyn ceisio am fantais yn y cymal oddi cartref.

Fe gafodd Hudson glod gan ei reolwr wrth i Gaerdydd geisio cyrraedd Wembley am y trydydd tro mewn pedair blynedd.

Parch

Mae rheolwr Caerdydd, Malky Mackay, yn credu fod Hudson yn ddewis delfrydol fel capten.

"Mae ganddo barch pawb yn yr ystafell newid," meddai Mackay.

"Rwy'n edrych ar sut y mae'n gofalu am ei hunan. Mae'n broffesiynnol i'r carn, a dyw hynny ddim bob tro yn cael y gydnabyddiaeth haeddiannol.

"Pan mae pobl yn edrych ar ôl eu hunain, yn bwyta'n iawn, ymarfer yn iawn, rydych chi'n gweld yr aberth.

"Ar y cae ac oddi arno i Gaerdydd, mae'n esiampl berffaith ac yn rhywun yr ydym yn falch o'i gael fel capten."

Cymal cyntaf

Treuliodd y chwaraewr 29 oed bedair blynedd gyda Palace cyn symud i Charlton yn 2008, ac yna i Gaerdydd flwyddyn yn ddiweddarach.

Nos Fawrth ym Mharc Selhurst fydd y cymal cyntaf yn y rownd gynderfynol, gyda'r ddau yn cwrdd eto yn Stadiwm Dinas Caerdydd ymhen pythefnos.

Y wobr i'r buddugwyr fydd lle yn y rownd derfynol yn Wembley yn erbyn naill ai Lerpwl neu Manchester City ar Chwefror 26.

Pan gyfarfu'r ddau dîm yn y Bencampwriaeth yn gynharach y tymor hwn, Caerdydd enillodd o 2-0 diolch i goliau Peter Whittingham a Kenny Miller.

Ond mae Malky Mackay yn credu na fydd y fuddugoliaeth yna'n bwysig wrth i'r ddau baratoi am gêm gwpan.