Dyn ar goll: Ailgread yn 'procio'r cof'

Michael Murphy Image copyright Other
Image caption Gwelwyd Michael Murphy ddiwethaf yn gadael ei le gwaith ar Ionawr 4.

Mae ailgread symudiadau olaf dyn o Sir Fflint cyn iddo fynd ar goll wedi "procio cof" pobl yn ôl yr heddlu.

Gwelwyd Michael Murphy, 32 oed, yn gadael ei le gwaith ar Ystâd Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy tua 6am ar ddydd Mercher Ionawr 4.

Daethpwyd o hyd i'w gar, Volkswagen Polo coch, rhif cofrestru S412 RTG, ar y lôn tua'r gorllewin dros y bont newydd sy'n arwain o Ystâd Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy i'r Fflint.

Roedd hynny cyn i'w deulu hysbysebu'r heddlu ei fod ar goll.

Ddydd Mercher bu'r heddlu yn holi gyrwyr mewn tri lleoliad a oeddent yn cofio gweld Mr Murphy wythnos yn ôl.

Wefan gymdeithasol

Roedd mam Mr Murphy, Ann, ac aelodau eraill o'r teulu yn bresennol wrth i'r heddlu holi'r gyrwyr.

Dywedodd y Prif Arolygydd Wareing: "Rwyf yn hapus iawn â ymateb a chydweithrediad bobl heddiw.

"Mae'n amlwg bod nifer o bobl wedi gweld car Michael, ac roedd rhai wedi gweld dyn yn cerdded tuag at Ystâd Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy rhwng 6.05am a 6.10am y bore hwnnw."

Mae mwy na 2,200 o bobl wedi ymuno â gwefan Missing Michael Murphy ar y wefan gymdeithasol Facebook.

Dywedodd teulu Mr Murphy eu bod wedi eu "calonogi" gan help a phryder pobl.

"Rydym am iddo ddod adref," meddai modryb Mr Murphy, Peggy Murphy.

Ychwanegodd fod Mr Murphy a'i gariad wedi gwahanu cyn y Nadolig ond bod ei ddiflaniad yn groes i'w gymeriad.

Ystâd Ddiwydiannol

"Aeth â chyd-weithiwr i'r gwaith, yfed paned o de a diflannu."

Bu hofrennydd a chymdeithas cŵn chwilio ac achub yn cynorthwyo'r heddlu wrth iddynt geisio dod o hyd i Mr Murphy.

Mae tîm chwilio tanddwr hefyd wedi bod yn chwilio afon gyfagos.

Roedd Mr Murphy yn gwisgo cap fflat llwyd tywyll, côt lwyd tywyll hir, jîns glas ac esgidiau hyfforddi Adidas gwyn gyda thair streipen ar yr ochr pan aeth ar goll.

Fe'i disgrifir fel dyn 5 troedfedd 10 modfedd, o faint corff canolig a gwallt golau y mae'n dechrau ei golli.

Dylai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu 0300 3300 101.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.