Cwest mam gafodd ei thrywanu

Emma Louise Jones Image copyright Other
Image caption Bu farw Emma Jones ar ôl cael ei thrywanu ar Ragfyr 10.

Mae cwest wedi clywed bod mam o Wynedd wedi marw wedi iddi gael ei thrywanu yn ei chalon.

Dywedodd patholegydd y Swyddfa Gartref, Dr Brian Rodgers, fod Emma Jones o Benygroes ger Caernarfon wedi marw o sioc a gwaedlif.

Bu farw'r fenyw 31 oed ar ôl cael ei thrywanu ar Ragfyr 10.

Mae'r crwner, Dewi Pritchard-Jones, wedi gohirio'r cwest yng Nghaernarfon.

Ar hyn o bryd mae menyw 23 oed o Lanllyfni, Alwen Eluned Jones, yn y ddalfa ar gyhuddiad o lofruddiaeth.

Straeon perthnasol