Cyhuddo dyn o lofruddio wedi digwyddiad ym Mae Caerdydd

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhuddo dyn 22 oed o lofruddiaeth.

Cafodd Kyle Griffith, 25 oed, ei ladd ar ôl digwyddiad yn Stryd James yn ardal Bae Caerdydd ddydd Mawrth.

Roedd yn cerdded pan gafodd ei daro gan gar tua 3am. Bu farw wedyn yn Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd.

Aed â'r dyn 22 oed o ardal Pentwyn, Caerdydd, i'r ysbyty ar ôl cael ei anafu ac mae disgwyl iddo ymddangos o flaen Ynadon Caerdydd.

Roedd Mr Griffith yn byw yn ardal Bae Caerdydd.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.