Damwain: Menyw mewn cyflwr difrifol

Mae menyw yn cael triniaeth ysbyty ar ôl cael anafiadau difrifol i'w phen wedi damwain yng Nghaerdydd ddydd Sul.

Mae'r fenyw 21 oed mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn ôl yr heddlu.

Bu cerbyd Jîp Llwyd mewn gwrthdrawiad â beic modur Suzuki du ar Ffordd Caerffili toc wedi 3pm.

Yn ôl yr heddlu roedd y fenyw yn teithio ar gefn beic modur.

Fe gafodd gyrrwr y beic anafiadau i'w wyneb.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.