Darganfod miliwnydd y Loteri yn ardal Castell-nedd

Mae rhywun yn ardal Castell-nedd Port Talbot wedi hawlio gwobr Loteri o £1 miliwn.

Daw hyn ar ôl cyhoeddiad bod 'na enillydd yn yr ardal bron i dair wythnos yn ôl.

Roedd trefnwyr y loteri yn dechrau amau bod rhywun wedi colli'r tocyn buddugol.

Bydd enw'r enillydd yn cael ei gadw yn gyfrinach oni bai ei fod yn cytuno i'w enw gael ei gyhoeddi.

Wedi ennill ar gêm EuroMillions y Loteri Genedlaethol wnaeth y person.

Yr wythnos diwethaf gofynnodd y Loteri i bobl yr ardal ailedrych ar eu tocynnau.

Dywedodd llefarydd ar ran y Loteri: "Rydyn ni'n hapus iawn bod yr enillydd wedi hawlio'r wobr ac rydyn ni'n gobeithio y byddan nhw'n mwynhau'r arian.

"Byddai wedi bod yn ofnadwy pe na bai'r enillydd wedi hawlio'r arian.

"Fe ddylai pawb gofio edrych ar eu rhifau bob tro."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.