Plaid Cymru i gyhoeddi adolygiad

Elin Jones, yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas, Leanne Wood a Simon Thomas Image copyright Other
Image caption Y pedwar sydd wedi cyhoeddi eu bwriad i frwydro am arweinyddiaeth Plaid Cymru yw Elin Jones, yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas, Leanne Wood a Simon Thomas.

Bydd Plaid Cymru yn cyhoeddi adolygiad gafodd ei gynnal yn dilyn perfformiad gwael y blaid yn etholiad y Cynulliad y llynedd.

Bydd yn cynnwys argymhellion ynglŷn â dyfodol y blaid wedi iddi golli seddi ym Mae Caerdydd.

Cafodd yr adolygiad ei arwain gan ymgynghorydd polisi economaidd Plaid Cymru, Eurfyl ap Gwilym.

Bydd ef ac arweinydd y blaid, Ieuan Wyn Jones, yn cyhoeddi canlyniadau'r adolygiad ym mhencadlys Plaid Cymru yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.

Ymddiswyddo

Penderfynwyd cynnal yr adolygiad wedi i'r blaid orffen yn y trydydd safle - y tu ôl i'r Blaid Lafur a'r Blaid Geidwadol.

Daw'r cyhoeddiad wrth i bedwar ymgeisydd frwydro i olynu Mr Jones am arweinyddiaeth y blaid wedi iddo benderfynu ymddiswyddo.

Y pedwar sydd wedi cyhoeddi eu bwriad i frwydro am yr arweinyddiaeth yw Elin Jones, yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas, Leanne Wood a Simon Thomas.

Bydd yr enwebiadau yn cau ar Ionawr 26.

Bydd yr arweinydd newydd yn cymryd yr awenau ar Fawrth 15 2012.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.