Cytuno i ddatblygu addysg Gymraeg yng Nghaerffili

Cynllun o safle Sant Ilan Image copyright Other
Image caption Mae disgwyl i'r gwaith ar safle Sant Ilan gychwyn ym mis Ebrill

Mae Cyngor Sir Caerffili wedi cymeradwyo cynlluniau i barhau â chynllun uchelgeisiol i drawsnewid safle Ysgol Uwchradd Sant Ilan yng Nghaerffili yn ysgol Gymraeg newydd.

Ddiwedd y llynedd roedd y Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi y byddai ysgolion y sir yn derbyn £92 miliwn i ariannu cynlluniau i drawsnewid addysg rhwng 2014 a 2021.

Ond mae 'na alw ar frys i ddarparu mwy o ddarpariaeth uwchradd Gymraeg o fis Medi 2013 ymlaen.

Nos Fawrth cytunodd cynghorwyr i barhau â Rhan 1 y datblygiad ar gyfer safle Sant Ilan, fydd yn costio £3.5 miliwn.

Bydd hyn yn golygu bod disgyblion Blwyddyn 7 sy'n byw yn ardal Caerffili yn gallu dechrau yn yr ysgol flwyddyn i fis Medi.

Strategaeth

Mae hon yn rhan o strategaeth gyffredinol i ddatblygu campws 3-16 oed lle bydd nifer o gyfleusterau'n cael eu rhannu - a phosibiliadau ar gyfer rhywfaint o ddarpariaeth ôl-16 hefyd.

Bydd y safle presennol yn Fleur de Lys yn gartre' i'r prif gampws ar gyfer addysg 16-19 oed.

Dywedodd y Cynghorydd Phil Bevan, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes: "Mae hwn yn gynllun uchelgeisiol sydd wedi ei ystyried yn ofalus.

"Rydym yn amlwg yn arwain y ffordd yng Nghymru o ran datblygu addysg Gymraeg sy'n addas ar gyfer y ganrif hon ..."

Roedd cynghorwyr wedi cymeradwyo argymhelliad arall, defnyddio cyllid sbâr er mwyn sicrhau bod modd bwrw 'mlaen gyda phrosiect Sant Ilan cyn gynted â phosib.

Bydd y broses dendro yn dechrau yn fuan, ac mae disgwyl i'r gwaith ar y safle gychwyn ym mis Ebrill.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.