Agor Hamdden Harlech yn swyddogol

Wal ddringo Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae Hamdden Harlech yn cynnwys wal ddringo newydd

Wedi blynyddoedd o ymgyrchu Hamdden Harlech yn cael ei lansio'n swyddogol.

Tyfodd Hamdden Harlech o'r ymgyrch i achub pwll nofio'r dre' yn 2008 pan benderfynodd y perchnogion ar y pryd - Cyngor Gwynedd - i'w gau.

Cafodd yr adeilad ei drosglwyddo i ofal y gymuned.

Ers hynny maen nhw wedi llwyddo i sicrhau arian Loteri gan Lywodraeth Cymru er mwyn ailagor yr adeilad fel adnodd i'r gymuned.

Fe fydd y pwll nofio yn dal yna, ond mae Hamdden Harlech hefyd yn cynnwys wal ddringo a chaffi newydd - adnoddau y mae'r pwyllgor yn gobeithio fydd yn denu llawer mwy o ymwelwyr i'r ganolfan.

Cefnogol

Mae gwirfoddolwyr wedi dweud ei bod yn bwysicach nag erioed i'r cyhoedd ddefnyddio'r pwll er mwyn sicrhau na fydd yn wynebu bygythiad eto.

"Mae'n waith caled, mae'r gwirfoddolwyr a'r cyfarwyddwyr yn gweithio'n galed i wneud yn siŵr bod hyn yn mynd i weithio," meddai Trevor Gennard, cyfarwyddwr Hamdden Harlech, y cwmni cymunedol sy'n rheoli'r adeilad.

"Rydym yn gwneud hyn yn ychwanegol at ein gwaith bob dydd.

"Mae'n allweddol bod y gymuned yn defnyddio'r pwll."

Dywedodd fod y gymuned yn gwbl gefnogol.

Bydd y seremoni agoriadol am 4.30pm brynhawn Iau yng nghwmni'r Aelod Seneddol Elfyn Llwyd a'r Cynghorydd Dyfed Edwards, arweinydd Cyngor Gwynedd.

Bydd cyfle wedyn i weld yr adnodd wal ddringo yng nghwmni'r dringwyr Sylvia Fitzpatrick a Callum Muskett ac Elfyn Jones o Gyngor Mynydda Prydain.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.