Gwrthdrawiad: Tri yn yr ysbyty

Damwain Image copyright bbc

Mae tri o bobl wedi eu cludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd rhwng Abercynon ac Aberpennar nos Fercher.

Digwyddodd y gwrthdrawiad am tua 6:00pm ar yr A4059.

Credir fod dau berson wedi cael anafiadau i'r frest a thrydydd person wedi mynd yn sâl cyn y digwyddiad.

Dywedodd y gwasanaeth tân fod criwiau o Aberdâr, Abercynon a Phontypridd wedi cael eu gyrru i'r safle.

Bu'n rhaid i ddiffoddwyr ddarparu therapi ocsigen cyn i barafeddygon gyrraedd ynghyd â bwrdd cefn.

Mae'r ffordd wedi ei chau, ac mae rheolwr gorsaf dân Pontypridd wedi cael ei yrru i'r safle i reoli'r safle.