Gweinyddwyr yn chwilio am brynwr i Peacocks

Staff Peacocks yn gadael eu gwaith Image copyright BBC news grab
Image caption Cafodd 249 o weithwyr Peacocks wybod ddydd Iau eu bod wedi colli eu gwaith

Mae gweinyddwyr Peacocks, KPMG, wedi dweud eu bod yn dal i chwilio am brynwr.

Cafodd 249 o weithwyr wybod ddydd Iau eu bod wedi colli eu swyddi ym mhencadlys y cwmni yng Nghaerdydd.

Mae wedi dod i'r amlwg nad oes modd i siopwyr ddefnyddio talebau yn siopau Peacocks na dychwelyd dillad gafodd eu prynu cyn i'r cwmni fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Dywedodd y gweinyddwyr y byddai 266 o weithwyr yn dal i weithio yn y swyddfa yng Nghaerdydd er mwyn parhau i redeg siopau'r cwmni.

Roedd y cwmni'n cyflogi dros 400 o weithwyr yng Nghaerdydd a thros 9,000 mewn safleoedd eraill ar draws y Deyrnas Unedig.

'Ffaelu'

Dywedodd un cwsmer, Emma Williams, ei bod yn "siomedig" na allai ddefnyddio taleb a gafodd fel anrheg Nadolig.

"Fe es i'r siop yn Abertawe a cheisio ei defnyddio ond o'n i'n ffaelu.

"Maen nhw wedi dweud eu bod yn mynd i gysylltu gyda'r gweinyddwyr a gweld a allen nhw wneud rhywbeth."

Mae Alistair Wardell, arbenigwr methdalu gyda chwmni Grant Thornton, wedi dweud: "Fe fydd y gweinyddwyr yn ceisio cadw'r siopau ar agor mor hir â phosib.

"O werthu'r cwmni fel busnes sy'n dal i fasnachu, mae'n mynd i greu mwy o arian i'r credydwyr a chadw cymaint o swyddi â phosib.

"Oherwydd hyn mae angen gwneud penderfyniadau anodd."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.