Peter Hain: Dirwy am oryrru

Peter Hain Image copyright PA
Image caption Cafodd Hain ei ddal yn gyrru ar gyflymder o 35 milltir yr awr mewn parth 30 milltir yr awr

Mae llefarydd yr Wrthblaid ar Gymru, Peter Hain wedi cael dirwy o £233 a thri phwynt ar ei drwydded am yrru'n rhy gyflym.

Roedd Hain, 61 oed, sy'n Aelod Seneddol Castell Nedd wedi pledio'n euog drwy'r post wedi iddo gael ei ddal yn gyrru ar gyflymder o 35 milltir yr awr mewn parth 30 milltir yr awr ar ffordd yr A4109 yng Nghwm Nedd tua 8.30am ar Fehefin 12 y llynedd.

Yn ôl swyddogion nid oedd Hain yn bresennol yn y gwrandawiad yn Llys Ynadon Castell-nedd ddydd Iau.

Dywedodd Hain ei fod "mewn penbleth" wedi iddo dderbyn gwŷs pan nad oedd wedi derbyn hysbysiad o'r gosb drwy'r post.

Mewn llythyr a ddarllenwyd i'r llys gan gynghorwr cyfreithiol, dywedodd Mr Hain: "Hwn yw'r tro cyntaf imi glywed am y drosedd oryrru am nad ydwyf wedi derbyn hysbysiad o'r gosb drwy'r post."

Ychwanegodd y cyn aelod o gabinet Llywodraeth y Deyrnas Unedig y byddai wedi ymateb yn syth a thalu'r ddirwy pe bai wedi derbyn hysbysiad o'r gosb.

Cafodd Hain ddirwy o £233, tri phwynt ar ei drwydded, a bu'n rhaid iddo dalu costau o £35 a thâl ychwanegol o £15.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.