Rhoi organau: 150 mewn dadl gyhoeddus

  • 22 Ionawr 2012
Archesgob Cymru, y Dr Barry Morgan
Yn mynegi safbwynt: Archesgob Cymru

Roedd 150 mewn dadl gyhoeddus am gydsyniad tybiedig rhoi organau yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Am 2pm y dechreuodd y ddadl yn Eglwys Sant Ioan y Bedyddiwr yn Yr Ais a'r trefnwyr oedd yr Eglwys yng Nghymru.

Yno roedd Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan; Roy Thomas, Cadeirydd Gweithredol Sefydliad Arennau Cymru a Dr Chris Jones, Cyfarwyddwr Meddygol GIG Cymru, yn mynegi eu safbwynt.

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio barn mudiadau ac unigolion am eu cynigion tan ddiwedd y mis ac mae'r archesgob o blaid eu dileu.

Y llynedd rhybuddiodd y gallai'r cynigion droi "gwirfoddolwyr yn rhai oedd yn cael eu gorfodi".

Rhodd

Cyn y ddadl gyhoeddus yng Nghaerdydd dywedodd y dylai organau fod yn rhodd i eraill nid yn "ased i'r wladwriaeth."

Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi dweud y dylai pobl ystyried cwestiynau moesol, gan gynnwys:

  • Beth yw ein barn am bwysigrwydd y corff dynol hyd yn oed wedi marwolaeth?
  • Pwy sydd â'r hawl i benderfynu sut y bydd y corff yn cael ei drin?
  • Pa mor bwysig yw egwyddor rhoi anhunanol pan ddaw i arbed bywyd?
  • A yw perthynas y wladwriaeth gyda'r unigolyn yn newid os oes tybiaeth fod ein horganau ar gael i'w rhi?
  • Beth sydd gan y ffydd Gristnogol i'w ddweud am hyn i gyd - ac a yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth?

Cyn y cyfarfod dywedodd y Parchedig Carol Wardman o'r Eglwys yng Nghymru: "Byddai'r rhan fwya o bobl yn hapus iawn i'w horganau gael eu defnyddio ar ôl eu marwolaeth er budd rhywun arall.

"Ond dim ond tua 30% ohonon ni sy'n ymuno â'r gofrestr rhoi organau.

"Dyna pam bod Llywodraeth Cymru eisiau cyflwyno deddfwriaeth i ganiatáu defnyddio organau ar gyfer eu trawsblannu os nad yw'r person wedi mynegi gwrthwynebiad."

Yn y cyfarfod dywedodd Martyn Hutchings o Gaerdydd ei fod wedi aros pedair blynedd am drawsblaniad ac y byddai'n croesawu newid y drefn.