Chwalu gobeithion y Gweilch

Imanol Harinordoquy Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Yn anturus: Yr wythwr, Imanol Harinordoquy

Biarritz 36-5 Gweilch

Cafodd gobeithion y Gweilch yn Ewrop eu chwalu gam fod Biarritz ben ac ysgwyddau'n well, yn gyflymach eu meddwl a'u chwarae.

Sgoriodd y tîm cartre bum cais, tri i Taku Ngwenya ac un yr un i Benoit Baby ac Iain Balshaw.

Y bachwr, Richard Hibbard, sgoriodd unig gais y Gweilch yn yr ail hanner.

Roedd Biarritz yn llwyr reoli yn yr hanner cynta a'r wythwr, Imanol Harinordoquy, a'r mewnwr, Dimitri Yachvili, yn greadigol ac anturus.

Tra bod Adam Jones yn angor yn y sgrym, Biarritz oedd yn rheoli pob agwedd arall.

Un tîm oedd ynddi ac, i bob pwrpas, roedd y gêm wedi ei hennill erbyn yr egwyl.

CWPAN HEINEKEN - GRŴP 5
Tîm Ch. E. Cyf. Colli Bonws Pwyntiau
Saraseniaid 6 5 0 1 2 22
Biarritz 6 3 0 3 6 18
GWEILCH 6 2 1 3 3 13
Treviso 6 1 1 4 1 7