E.coli: Mwy o risg i gefn gwlad

Straen anhysbys o E-coli Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae 'na bryderon cynyddol fod E.coli yn risg benodol mewn ardaloedd gwledig, yn enwedig i blant ifanc

Mae E.coli 0157 yn fwy o berygl mewn amgylcheddau gwledig ond gallai mesurau syml leihau'r risg, yn ôl tîm o arbenigwyr sy'n cynnwys gwyddonwyr o Brifysgol Bangor.

Mae'r ymchwil - sy'n rhan o Raglen Economi Wledig a Defnydd Tir gan gyngor ymchwil y DU - yn dweud y gallai mesurau elfennol a chydweithio rhwng awdurdodau perthnasol chwarae rhan fawr yn niogelwch plant a grwpiau bregus.

Bu academyddion o brifysgolion Bangor, Aberdeen, Manceinion ac Ysgol Feddygol Clefydau Trofannol Llundain yn astudio ymddygiad y bacterium mewn amgylchedd gwledig, a'r rhan allai ffermwyr, lladd-dai a'r cyhoedd ei chwarae.

Er bod nifer o'r achosion mwya' amlwg o E.coli 0157 yn tarddu o fwyd wedi'i heintio, mae'r bacterium hefyd wedi'i gysylltu â tharddiadau amgylcheddol ers canol y 1990 - yn cynnwys ysgarthion anifeiliaid fferm a chyflenwadau dŵr preifat.

Diffyg ymwybyddiaeth

Mae hyn wedi arwain at bryderon cynyddol fod 'na risg benodol mewn ardaloedd gwledig, yn enwedig i blant ifanc.

Ond daeth yr ymchwilwyr i'r casgliad nad oedd 'na lawer o ymwybyddiaeth ymhlith ymwelwyr i gefn gwlad, allai fod yn fwy tebygol o gael eu heintio.

Roedd yr arbenigwyr yn pryderu am hyn gan fod 'na beryglon penodol yn gysylltiedig â gweithgareddau megis gwersylla mewn caeau ble mae anifeiliaid newydd fod yn pori.

Gall y bacteria E.coli oroesi ar gamfeydd a physt ffens, lle mae ymwelwyr yn gallu rhoi eu dwylo wrth gerdded neu gael picnic.

Dangosodd y gwaith ymchwil fod yr haint yn fwy cyffredin mewn rhai mannau, efallai oherwydd y lefelau amrywiol o facteria sydd i'w gael ymhlith anifeiliaid fferm.

Er enghraifft, roedd yr ymchwilwyr wedi cymharu Mynydd Bannog (Grampian) â Gogledd Cymru, a dod i'r casgliad bod pobl yn ardal astudiaeth Yr Alban bedair gwaith yn fwy tebygol o gael eu taro'n wael.

Mae'n ymddangos fod gweithwyr amaethyddol yn magu rhywfaint o imiwnedd, ond mae plant mewn mwy o berygl oherwydd eu systemau imiwnedd anaeddfed, felly mae'n arbennig o bwysig i bobl ifanc sy'n byw yn y wlad ac i ymwelwyr ifainc, fel ei gilydd, gymryd rhagofalon priodol.

Golchi dwylo

"Roedd yn bleser gennym gyfrannu at y project arloesol hwn a fu'n edrych ar y modd y mae E.coli O157 yn ymddwyn yn yr amgylchedd ac, yn unigryw, ar y modd y gall ymddygiad pobl ddylanwadu ar y risgiau sydd ynghlwm wrtho," meddai'r Athro Davey Jones o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor.

Ar ben hynny, dywedodd Dr Norval Strachan o Brifysgol Aberdeen, a arweiniodd yr ymchwil, bod "golchi dwylo'n drylwyr yn ffordd effeithiol i unigolyn leihau ei risg ei hun ar ôl ymweld â chefn gwlad".

"Mae hyn yn enwedig lle mae anifeiliaid neu eu baw, a chyn bwyta.

"Dylai trigolion cefn gwlad ac ymwelwyr bod yn ymwybodol o'r peryglon.

"Er enghraifft, rydym yn cynghori ffermwyr i edrych ar ba le a pha bryd y mae anifeiliaid yn pori os oes risgiau penodol i'r cyhoedd, ac yn argymell bod awdurdodau lleol a chenedlaethol yn gwneud mwy o waith ar y cyd i gofi ymwybyddiaeth.

"Gallai targedu gofalwyr dros blant ifainc a'r rheiny sy'n gyfrifol am gynnal grwpiau chwarae a gweithgareddau plant ifainc fod yn arbennig o fuddiol.

"Rydym yn argymell y dylai awdurdodau lleol a chenedlaethol gymryd camau ar y cyd i godi ymwybyddiaeth, gall targedu gofalwyr plant ifanc a'r rhai sy'n gyfrifol am gynnal cylchoedd meithrin a gweithgareddau plant bach yn cael effaith arbennig o fuddiol."

Dywedodd Dr Prysor Williams o Brifysgol Bangor fod yr ymateb a gafwyd oddi wrth bobl a gymerodd ran yn y project yn gadarnhaol dros ben.

"Buom yn gweithio gyda channoedd o ffermwyr, gweithwyr lladd-dy a'r cyhoedd fel rhan o'r astudiaeth," meddai.

"Roedd gan y rhan fwyaf ohonyn nhw ddiddordeb mawr yn y gwaith ac, yn benodol, mewn dysgu sut y gallen nhw leihau'r perygl iddyn nhw eu hunain a'u teuluoedd o'r clefyd hwn, a all fod yn gas iawn."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.