Cynnal ymchwiliad cyhoeddus wedi apêl ffracio

Tyllu am nwy siâl Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Gall hyd at £70bn o nwy siâl fod yn y creigiau o dan de Cymru yn ôl awgrym

Fe fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal ymchwiliad cyhoeddus i'r bwriad o gynnal profion i dyllu am nwy ym Mro Morgannwg.

Fe wnaeth Cyngor Bro Morgannwg wrthod cais gan gwmni Coastal Oil and Gas o Ben-y-bont ar Ogwr i archwilio ac arbrofi ar y safle yn Llandŵ ar gyfer nwy siâl a nwy confensiynol.

Mae'r cwmni wedi gwneud apêl i Lywodraeth Cymru ac mae disgwyl i'r ymchwiliad gael ei gynnal ar Fai 23.

Mae gan drigolion lleol tan Chwefror 14 i nodi unrhyw wrthwynebiad i'r cais gyda'r Arolygydd Cynllunio.

Mae trigolion lleol wedi lleisio pryderon y gallai'r tyllu arbrofol arwain at dyllu pellach na ffracio, sy'n golygu chwistrellu tywod a hylif i'r creigiau dan ddaear er mwyn eu gwahanu a rhyddhau'r nwy.

Dim nwy siâl

Mae gwrthwynebwyr yn y DU ac America, lle mae'n cael ei wneud yn eang, yn dweud y gall achosi llygredd amgylcheddol a salwch ymhlith pobl leol.

Ond yn ôl Gerwyn Williams, wnaeth y cais gwreiddiol, fe fyddai'r tyllu am nwy confensiynol yn hytrach na nwy siâl.

Cafodd y cais gwreiddiol gan y cwmni ei dynnu'n ôl ar ôl canfod bod tai ger y safle tyllu.

Yn y cais hwnnw, fe wnaeth ymgyrchwyr ganfod cyfeiriad at nwy siâl a dechrau ymgyrchu yn erbyn y cais.

Fe fydd yr ymchwiliad yn cael ei gynnal yn swyddfa Cyngor Bro Morgannwg yn Y Barri.

Yn ôl llefarydd mae'r apêl yn ymwneud a'r cais i wneud gwaith tyllu archwiliadol.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.