Heddlu wedi cael ymateb da wedi ymosodiad difrifol

Heddlu'r Gogledd Image copyright Other
Image caption Mae ymchwiliad Heddlu'r Gogledd yn parhau

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi cael ymateb da am wybodaeth gan y cyhoedd ar ôl ymosodiad ar ddyn 24 oed ym Methesda ar Ddydd Calan.

Ymosodwyd ar y dyn lleol wrth iddo gerdded ar hyd Y Stryd Fawr yn ystod oriau mân Dydd Calan.

Roedd wedi derbyn anafiadau difrifol a bu'n cael triniaeth yn Ysbyty Walton, Lerpwl.

Mae o erbyn hyn wedi cael ei drosglwyddo i ysbyty yn nes adref ac mae ei gyflwr yn gwella.

Dywedodd yr heddlu bod dau lanc ifanc yn dal ar fechnïaeth yr heddlu wrth i'w hymholiadau barhau.

Mae trydydd llanc, sydd erbyn hyn yn 14 oed, ac a gafodd ei arestio fel rhan o'r ymchwiliad, wedi cydweithio yn llawn gyda'r heddlu.

Mae o wedi cael ei ryddhau yn ddi-gyhuddiad.

Mae'r heddlu yn parhau i apelio am wybodaeth.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth am yr hyn ddigwyddodd ar Stryd Fawr Bethesda rhwng 3am a 4am Dydd Calan fe ddylen nhw gysylltu gyda'r Ditectif Sarjant Brian Kearney ar 101.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.