Gwrandawiad cyn cwest gweithiwr MI6

Gareth Williams Image copyright Metropolitan Police
Image caption Roedd corff y dyn 31 oed wedi ei gloi mewn bag chwaraeon yn y bath

Mae disgwyl i'r gwrandawiad cyntaf cyn cynnal cwest i farwolaeth Gareth Williams o Ynys Fôn, fu farw mewn amgylchiadau amheus yn ei fflat yn Llundain ym mis Awst 2010, gael ei gynnal ar Fawrth 29.

Yno mi fydd crwner Westminster yn amlinellu'r dystiolaeth sy'n bodoli cyn i'r cwest gychwyn ddiwedd Ebrill.

Roedd corff y dyn 31 oed wedi ei gloi mewn bag chwaraeon yn y bath yn ei fflat yn Pimlico ar Awst 23 2010.

Mae Heddlu Llundain wedi dweud bod ei farwolaeth yn "anesboniadwy" ac nad oedd modd sefydlu achos y farwolaeth mewn archwiliad post mortem.

Roedd yn gweithio fel swyddog cyfathrebu yng Nghanolfan Glustfeinio'r Llywodraeth yn Cheltenham ond roedd wedi cael secondiad i MI6.

Dywedodd yr heddlu fod yr ymchwiliad yn "gymhleth".

Graddiodd Mr Williams gyda gradd dosbarth cyntaf o Brifysgol Bangor yn 17 oed ar ôl astudio ar gyfer ei radd tra'n ddisgybl ysgol.

Straeon perthnasol