Cyfle i’ch ‘Kyffin’ serennu

Llanddona, gan Kyffin Williams Image copyright Other
Image caption Mae gan yr oriel 400 o enghreifftiau o waith Kyffin Williams

Oes gennych chi unrhyw luniau gwreiddiol gan Kyffin Williams?

Os oes, mae Oriel Ynys Môn eisiau eich help wrth drefnu arddangosfa newydd yn Oriel Kyffin Williams.

Nod yr arddangosfa - O'r Aelwyd i'r Oriel - yw rhoi'r cyfle i'r cyhoedd weld rhagor o waith gwreiddiol yr artist o'r ynys.

Dywedodd Pat West, Prif Swyddog Amgueddfeydd Diwylliant ac Archifau Cyngor Ynys Môn a churadur yr arddangosfa: "Rydym yn awyddus iawn i glywed gan unrhyw un sydd yn ddigon ffodus i fod yn berchen ar waith gwreiddiol.

"Unwaith mae darn o waith celf yn cael ei werthu'n breifat, oni bai ei fod yn cael ei fenthyg i oriel, i bob pwrpas mae'n bosib dweud ei fod yn diflannu.

"Mae hyn yn gyfle i bawb brofi'r pleser o sefyll o flaen gwaith celf arbennig."

'Bob wythnos'

Mae gan yr oriel eisoes 400 o enghreifftiau o waith Kyffin Williams ond dywedodd Ian Jones, Swyddog Amgueddfeydd y cyngor, mai brasluniau oedd y rhan helaeth nid gwaith olew ar gynfas.

"Ar un amser, dywedodd yr artist ei fod o'n mynd i ddisgyblu ei hun i baentio o leia un cynfas yr wythnos. Yn sicr roedd yn llenwi llyfr gyda brasluniau yn ddyddiol.

"Wrth feddwl y dywedodd o hynny yn ei 50au, ac yntau wedi byw tan ei 80au hwyr, mae yna dipyn go lew o waith ganddo allan yna rywle."

Mae'r oriel am dderbyn unrhyw waith, waeth beth yw'r pwnc neu'r lleoliad.

"Rydym eisoes wedi derbyn rhai galwadau, ac mae'r perchnogion yn edrych ymlaen at weld eu gwaith celf mewn oriel," ychwanegodd Pat West.

"Rydym wedi cael benthyg gan gasgliadau preifat yn y gorffennol ond erioed ar y raddfa yma."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.