Estyn: Pryderon am lythrennedd

Dosbarth o blant Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Dyma'r ail flwyddyn yn olynol i Estyn dynnu sylw at bryderon am sgiliau darllen disgyblion Cymru

Mae'r corff sy'n arolygu ysgolion yng Nghymru wedi codi pryderon am lefelau llythrennedd, ac yn dweud nad yw canlyniadau arholiadau yn gwella mor sydyn â mewn rhannau eraill o'r DU.

Daeth adroddiad blynyddol Estyn i'r casgliad fod 40% o ddisgyblion cynradd yn cyrraedd yr ysgol uwchradd gydag oedran darllen sy'n is na'u hoedran go iawn.

Ond roedd 'na ganmoliaeth i gynllun dysgu trwy chwarae ar gyfer plant o dan saith oed.

Dywedodd yr adroddiad hefyd fod "y mwyafrif helaeth" o blant cynradd yn mwynhau'r gweithgareddau mwy amrywiol a chyffrous o dan y cyfnod sylfaen.

Yn ôl y corff arolygu, roedd angen gwneud llawer i wella addysg yn gyffredinol, tra bod Llywodraeth Cymru o'r farn bod yr adroddiad yn dangos bod yn rhaid i'r sector addysg "ymateb i'r her".

Dyma'r ail flwyddyn yn olynol i'r prif arolygydd Ann Keane dynnu sylw at y pryderon ynglŷn â sgiliau darllen disgyblion Cymru a dywedodd bod y corff arolygu'n bryderus ynglŷn â'r safonau "mewn lleiafrif sylweddol o ysgolion cynradd".

Rhybudd

Mae ei hadroddiad yn dweud fod 20% o ddisgyblion yn cyrraedd addysg uwchradd gydag oedran darllen sy'n is na naw oed a chwe mis - y lefel llythrennedd sy'n cael ei ystyried yn weithredol.

Rhybuddiodd Estyn nad yw'r plant hynny o reidrwydd yn dal fyny.

Daeth yr adroddiad i'r casgliad fod gan yr ysgolion gorau agwedd systematig tuag at ddatblygu llythrennedd ym mhob maes ond, yn fwy cyffredin, doedd gwella llythrennedd ddim yn ganolog wrth lunio'r cwricwlwm.

Yn ogystal, dywedodd yr adroddiad fod:

  • Dros hanner adroddiadau arolwg ysgolion cynradd yn dweud bod angen gwella llythrennedd, yn enwedig sgiliau ysgrifennu. Dyw lleiafrif o ysgolion ddim yn treulio digon o amser yn dysgu ysgrifennu a darllen yn uniongyrchol.
  • Safonau lles yn uchel. Roedd bron pob disgybl wnaeth ymateb i arolwg yn dweud eu bod yn teimlo'n ddiogel yn yr ysgol.
  • "Gostyngiad sylweddol" yn nifer yr enghreifftiau o ddysgu ardderchog.
  • Perfformiad mewn pedair o bob pum ysgol gynradd, a dwy o bob tair ysgol uwchradd yn dda, ond roedd chwarter angen ymweliadau pellach a 5% yn achosi "pryder difrifol".
  • Canlyniadau arholiadau ac asesiadau yn gwella, ond "dim mor gyflym â mewn rhannau eraill o'r DU".
  • Ysgolion cynradd ddim yn gwneud digon i adnabod disgyblion galluog a thalentog nag yn cynnig digon o gyfleoedd i'w herio a'u hymestyn nhw.
  • Plant oedd yn derbyn cinio ysgol am ddim ddim yn gwneud cystal ag y dylen nhw mewn 30% o'r ysgolion.

Cymraeg ail iaith

Roedd plant yn elwa o addysg yn yr awyr agored o dan y cyfnod sylfaen, meddai'r adroddiad, gyda bechgyn yn enwedig yn cael budd o gael rhedeg, neidio, ymchwilio ac arbrofi.

Er y casgliadau cadarnhaol o ran lles plant yn ystod y cyfnod sylfaen, "mae 'na lawer ar ôl i'w wneud i wella addysg yn gyffredinol yng Nghymru", meddai'r adroddiad.

Mae 'na bryderon hefyd am safon dysgu Cymraeg fel ail iaith.

Mae'r adroddiad yn dweud nad yw disgyblion yn cael digon o gyfle i ddatblygu eu gwybodaeth o'r iaith y tu hwnt i'r gwersi Cymraeg.

Yn ôl Ms Keane, mae hynny'n bennaf oherwydd nad yw llawer o athrawon yn ddigon hyderus, a heb ddigon o wybodaeth eu hunain i ddysgu'r iaith ar lefel uchel.

Dywedodd yr adroddiad fod 'na wendidau hefyd yn y modd mae penaethiaid a llywodraethwyr yn chwarter yr ysgolion gafodd eu harolygu yn cadw llygaid ar berfformiad athrawon a disgyblion.

Addasu

Meddai Ms Keane: "Rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer yr athrawon 'ardderchog' o'i gymharu â'r casgliad diwethaf o arolygon.

"Mae angen i ysgolion wneud mwy i addasu eu deunydd a'u harddulliau dysgu i gwrdd ag anghenion disgyblion o bob math.

"Mae'r rhan fwya' o ddosbarthiadau yn cynnwys cymysgedd o ddeallusrwydd felly mae'n bwysig iawn i gynllunio ffyrdd gwahanol o ddysgu ar gyfer grwpiau gwahanol ac i edrych ar ddatblygiad disgyblion unigol yn ofalus."

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y Gweinidog Addysg Leighton Andrews wedi dweud yn gadarn iawn bod yn rhaid gwella safonau a pherfformiad yng Nghymru'n gyffredinol, yn enwedig mewn llythrennedd a rhifedd.

Yn ôl llefarydd, byddai cynllun 20-pwynt y gweinidog yn cyflwyno cyfres o fesurau positif i gyflawni hyn.

"Rydyn ni'n gwybod fod 'na lawer o enghreifftiau o arfer da mewn addysg, ac os ydan ni am wella mae'n rhaid rhannu hynny ar bob lefel," meddai'r llefarydd.

"Mae cysondeb a pherfformiad uchel yn hanfodol i sicrhau bod ein pobl ifanc yn elwa o'r safonau gorau o addysg yng Nghymru."

Ychwanegodd y llefarydd: "Rydym yn diolch i Estyn am eu hadroddiad blynyddol sy'n adnabod y llwyddiannau a ble mae angen i'r sector addysg yng Nghymru ymateb i'r her.

"Os am wella, mae'n hollbwysig gwybod sut mae rhywun yn perfformio. Rydym yn credu'n gryf fod atebolrwydd wrth galon gwelliant - dyna'n sicr yw ein neges i'r sector.

"Byddwn nawr yn ystyried yr adroddiad yn llawn ac yn ymateb maes o law."

'Symud ymlaen'

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar addysg, Angela Burns AC: "Rydym eisoes yn gwybod fod Cymru ar waelod y tabl o ran llythrennedd a rhifedd yn y DU ac mae'r adroddiad yma'n peri pryder am ei fod yn parhau i feirniadu yn y meysydd hyn.

"Ond rwy'n croesawu'r casgliad fod llawer o ysgolion yn perfformio'n well, ac fe ddylai'r gweinidog fod yn defnyddio'r rhain a dysgu oddi wrthynt."

Ychwanegodd ei fod yn "hynod o bryderus" fod canran mor uchel o ysgolion angen ymweliadau pellach.

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd Anna Brychan ar ran undeb athrawon yr NAHT:

"Rydym yn falch iawn o nodi'r ymateb cadarnhaol i'r Cyfnod Sylfaen; ac yn ymfalchïo hefyd fod plant yn teimlo'u bod yn cael cefnogaeth yn ysgolion Cymru; mae ymateb rhieni yn bositif ar y cyfan hefyd.

"Rydym nawr angen symud ymlaen i ystyried sut i wella pethau - gan sicrhau bod 'na gefnogaeth ddigonol i ysgolion a bod digon o amser ac adnoddau i wella a rhannu arferion da.

"Hyd yma, mae'n ymddangos fod gwneud y diagnosis yn denu llawer mwy o egni a brwdfrydedd na datblygu ffyrdd effeithiol o helpu ysgolion i wella'n gyflym."

Meddai llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Simon Thomas: "Mae'r adroddiad hwn yn brawf o bwys i Weinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews a'r llywodraeth Lafur. Bu Plaid Cymru yn amlygu ers amser yr angen i wella sgiliau llythrennedd a rhifedd.

"Yng ngoleuni'r adroddiad diweddar hwn, mae'n amlwg fod arnom angen gweithredu ac arweiniad radical gan y Gweinidog Addysg Leighton Andrews yn hyn o beth."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.