Wrecsam: Arian i'r cefnogwyr

Y Cae Ras Image copyright BBC news grab
Image caption Bu'n rhaid i'r clwb dalu bond o £250,000

Erbyn hyn mae'r rhan fwyaf o bobl wnaeth fenthyg arian i dalu am fond i glwb pêl-droed Wrecsam wedi cael eu had-dalu, yn ôl cyfrifwyr.

Roedd nifer o gefnogwyr wedi cyfrannu er mwyn casglu bond £250,000 i'w roi yn nwylo'r Gynghrair yn Awst 2011.

Yn gynharach y mis hwn cyhoeddodd y gynghrair y byddai'r arian yn cael ei ad-dalu i'r cefnogwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyfrifwyr McLintocks Chartered Accountans fod y rhan fwyaf o gefnogwyr wedi cael eu harian yn ôl bellach.

"Ond rydym wedi methu a dod o hyd i ambell gefnogwr sydd wedi cyfrannu.

"Mae'r arian hynny yn amrywio o ychydig bunnoedd i rai cannoedd."

Dywedodd y llefarydd y dylai cefnogwyr sydd heb dderbyn eu harian gysylltu â John McClintock ar 0845 680 7800.

Mae prif weithredwr Wrecsam wedi diolch unwaith yn rhagor i'r cefnogwyr.

"Byddai'n dda pe bai ni'n gallu dangos ein gwerthfawrogiad drwy sicrhau dyrchafiad yn ôl i'r Gynghrair Pêl-droed."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.