Marwolaeth deifiwr yn ddirgelwch

Y Ganolfan Deifio Cenedlaethol Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Hen chwarel wedi ei haddasu yw'r ganolfan yn Tidenham

Mae marwolaeth deifiwr profiadol yn parhau'n ddirgelwch wedi i grwner ddweud ddydd Mercher nad oedd tystiolaeth bendant am achos y drasiedi.

Bu farw Eric Davie, 55 oed o Benperllenni ger Pont-y-pŵl, tra'n deifio yn y Ganolfan Ddeifio a Gweithgareddau Cenedlaethol yn Tydenham, Sir Gaerloyw ym mis Ebrill y llynedd.

Yn dilyn ei farwolaeth, daeth ymchwiliad i'r casgliad nad oedd ei gyfrifiadur deifio wedi ei osod yn gywir, a bod y teclyn rheoli aer yn un o'i danciau wedi ei osod i lefel is na'r arfer.

Ond dywedodd dirprwy grwner Sir Gaerloyw, Katy Skerrett, er bod yna "gyfuniad o wallau yn yr offer oedd ganddo" doedd dim sicrwydd mai dyna achosodd iddo gael confylsiynau o dan y dŵr.

'Gofalus'

Fe wnaeth ei gyd ddeifwyr eu gorau i'w gynorthwyo, ac yna i geisio'i adfywio ar ôl cyrraedd yr wyneb, ond bu farw yn y fan a'r lle.

Dywedodd un o'r ffrindiau, Bill Harrison, wrth y gwrandawiad: "Roedd yn un o'r deifwyr gorau i mi ei gyfarfod, a bob tro yn ofalus iawn gyda'i offer.

"Roedd Eric wedi defnyddio silindrau alwminiwm o'r blaen, ond dyma oedd y tro cyntaf iddo ddefnyddio rhai ei hun.

"Roedden ni'n ddwfn yn y dŵr - tua 55 metr - ac ar ôl tua chwarter awr fe sylwais nad oedd Eric yn cicio. Yna gwelais ei fod yn cael confylsiynau."

Wrth gofnodi i Eric Davie farw trwy ddamwain, dywedodd y crwner: "Roedd yn ddeifiwr profiadol, ac roedd ei offer i gyd mewn cyflwr da.

"Fe allai cyfuniad o wallau gyda'r offer fod wedi cael effaith, ond fyddwn ni fyth yn gwybod hynny i sicrwydd."

Straeon perthnasol