'Iaith ar waith'

Maes Eisteddfod Wrecsam Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Daeth bwrlwm a brwdfrydedd i Wrecsam gyda'r Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst y llynedd

Mae tref Wrecsam wedi ei dewis fel man cychwyn cynllun i geisio sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn ffynnu.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi strategaeth yn fuan - 'Iaith Hyfyw - Iaith i Fyw' - sy'n ceisio sicrhau bod yr iaith yn cael ei siarad a'i defnyddio bob dydd.

Un o brif argymhellion dogfen ddrafft y strategaeth oed hybu dwyieithrwydd mewn rhan o'n trefi a'n dinasoedd.

Cafodd Wrecsam ei dewis i ddechrau er mwyn parhau gyda'r bwrlwm a'r brwdfrydedd ddaeth i'r fro wrth gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yno yn 2011.

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, rhyw 12% o drigolion canol Wrecsam sy'n siarad Cymraeg.

Daeth llawer mwy o siaradwyr Cymraeg i'r ardal ddechrau Awst y llynedd i'r brifwyl, ac mae yna awydd yn lleol i hynny ddigwydd yn amlach.

Wrecsam oedd y dewis felly ar gyfer man cychwyn cynllun Trefi a Dinasoedd Dwyieithog gan Lywodraeth Cymru a Bwrdd Yr Iaith Gymraeg.

'Creu sylfaen'

Mae Cefin Campbell wedi bod yn ymchwilio i gyflwr a statws yr iaith yng nghanol y dref, a dywedodd:

"Mae'r prosiect yma'n gyfle i greu sylfaen ar gyfer dyfodol yr iaith a gweld twf a datblygiad o'r gwaddol yna mae Eisteddfod yn gadael ar ei hôl.

"Mae' dalcen caled oherwydd mae'r Saesneg wedi tra-arglwyddiaethu mewn lle fel Wrecsam ers blynyddoedd mawr.

"Ond ar yr ochr bositif, beth y'n ni'n weld yw twf mewn addysg Gymraeg a chefnogaeth aruthrol gan y di-Gymraeg.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Adroddiad Rhian Price ar y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru fore Iau.

'Momentwm'

"O roi'r cyfan at ei gilydd a gweld cyfleoedd i bobl gael swyddi trwy gyfrwng y Gymraeg yn y dyfodol - gweld agor Clwb Saith Seren fel canolfan Gymraeg i Wrecsam - mae yna lawer iawn o bethau cyffrous yn digwydd yma.

"Creu momentwm yw'r nod fel bod y Gymraeg yn parhau i ddatblygu."

Mae mudiadau iaith perthnasol eisoes wedi cyfrannu i'r ymchwil. Mewn cyfarfod cyhoeddus yng Ngholeg Iâl, roedd 'na gyfle i drigolion yr ardal drafod y sefyllfa a chyfrannu syniadau posib.

Daeth rhyw hanner cant o bobol - yn eu plith, nifer sy'n ddi-Gymraeg neu'n dysgu'r iaith - i'r cyfarfod agored.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.