Dosbarth
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Trafod addysg Gymraeg ym Mhowys

8 Chwefror 2012 Diweddarwyd 14:13 GMT

Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Ysgol y Bannau yn Aberhonddu nos Fercher wrth i Gyngor Powys ymgynghori ar ei gynlluniau ar gyfer addysg Gymraeg.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bob sir egluro sut y maen nhw'n bwriadu datblygu addysg Gymraeg dros y tair blynedd nesaf.

Nos Fawrth roedd 'na gyfarfod yn Y Drenewydd er mwyn i swyddogion Cyngor Powys glywed safbwyntiau rhai o bobl Sir Drefaldwyn.

Adroddiad Craig Duggan.