Yr amgylchedd wrth galon dysgu

Adeilad Sefydliad Addysg Gynaliadwy Cymru yn CAT, Machynlleth Image copyright Other
Image caption Mae cyrsiau ôl-radd yn cael eu dysgu yn Sefydliad Addysg Gynaliadwy Cymru yn CAT

Mae canolfan werdd wedi ffurfio cynghrair gyda phrifysgol mewn ymgais i roi'r amgylchedd wrth galon dysgu.

Mae'r Ganolfan Dechnoleg Amgen (CAT) ger Machynlleth wedi ffurfio cynghrair strategol gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Dywed y brifysgol y bydd y bartneriaeth yn cynnig cyfleoedd newydd ar gyfer ymchwili a datblygu.

Mae gan CAT ysgol amgylchedd sy'n darparu cyrsiau ôl-radd arbenigol.

Ond dywedodd CAT ei bod yn rhy gynnar i ddweud os fydd y cydweithio'n arwain at swyddi newydd.

Dinasyddion cyfrifol

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y ddau sefydliad eu bod yn rhannu'r un gwerthoedd, ac yn cydnabod "yr angen ar frys i osod cynaliadwyedd wrth galon y modd yr ydym yn cynllunio i'r dyfodo

Eu bwriad yw sicrhau bod pawb yn gallu derbyn y wybodaeth a'r sgiliau sydd angen i ddod yn ddinasyddion cyfrifol yn yr 21ain Ganrif.

"Rwyf wrth fy modd bod CAT wedi dewis ffurfio partneriaeth gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant," meddai Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro Medwin Hughes.

"Rydym yn uchelgeisiol ar ran ein myfyrwyr, ac yn ymroddedig i weithio gyda phob sector i gefnogi'r agenda cynaliadwy.

"Bydd y bartneriaeth newydd yn ein galluogi i wella'r profiad o ddysgu i'n myfyrwyr, ac i gynnig cyfleoedd newydd ar gyfer ymchwil a datblygu."

'Datblygu cyrsiau'

Roedd Dr Iolo ap Gwynn, cadeirydd ymddiriedolwyr CAT, hefyd yn croesawu'r cydweithio.

"Fe fydd sail ehangach ar gael nawr ar gyfer datblygu cyrsiau ac ymchwil archwiliadol ar bob lefel," meddai.

Agorodd CAT yn 1974. Mae'n denu tua 50,000 o ymwelwyr bob blwyddyn ac yn cyflogi tua 120 o staff llawn amser a rhan amser.

Ym mis Mehefin 2010, agorodd adeilad Sefydliad Addysg Gynaliadwy Cymru ar y safle, sy'n cynnwys theatr ddarlithio 200 o seddi.

Gall myfyrwyr astudio am ynni gwynt, cynhesu dŵr gan ddefnyddio'r haul a garddio organig.

Ffurfiwyd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wrth i Goleg y Drindod, Caerfyrddin, a Phrifysgol Cymru Llanbed uno.l".

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.