Gêm bwysig i'r Elyrch yn erbyn Norwich yn Stadiwm Liberty

Abertawe Image copyright Other

Bydd gan Brendan Rodgers bron i garfan lawn ar gyfer gêm Clwb Pêl-droed Abertawe yn erbyn Norwich ddydd Sadwrn.

Dydd Iau fe arwyddodd y rheolwr gytundeb newydd a fydd yn ei gadw yn Stadiwm Liberty tan 2015.

Gydag Abertawe yn agos at sicrhau eu dyfodol yn yr Uwchgynghrair, mae'r gêm yn erbyn Norwich yn Abertawe yn cael ei gweld gan rai fel un allweddol.

Y nod i'r rhan fwyaf o glybiau i sicrhau eu dyfodol yn y brif adran yw 40 pwynt.

Eisoes mae gan Abertawe 30 gydag 14 o gemau yn weddill, ac mae record gartref Yr Elyrch wedi bod yn ardderchog y tymor hwn.

Mae Rodgers yn debyg o gadw at yr un 11 a gurodd West Bromwich Albion o 2-1 y penwythnos diwethaf.

Mae'n annhebyg y bydd Curtis Obeng yn y garfan wedi ei drosglwyddiad o Wrecsam ym mis Ionawr, tra bod Ferrie Bodde ac Andrea Orlandi wedi eu hanafu.

Carfan debygol Abertawe :-

Vorm, Williams, Taylor, Caulker, Tate, Britton, Graham,

Sinclair, Dyer, Dobbie, Routledge, Monk, McEachran, Lita, Moore, Bessone,

Rangel, Situ, Allen, Tremmel, Agustien, Gower, Richards, Sigurdsson.

Tabl yr Uwchgynghrair

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Man City 24 +44 57
2. Man United 24 +35 55
3. Tottenham 24 +19 50
4. Chelsea 24 +15 43
-----------------------------------------------------------------------------------------
10. ABERTAWE 24 -3 30

Chwefror 10, 2012.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.