Cyflwyno camerâu nos ar ôl cynnydd mewn difa ceirw

Lluniau o geirw ar gamera isgoch Image copyright Other
Image caption Gallai cymaint â 5,000 o geirw fod yn crwydro yng nghoedwigoedd Cymru

Mae nifer y ceirw gwyllt sy'n cael eu difa yng Nghymru wedi dyblu mewn pum mlynedd, yn ôl swyddogion.

Daw hyn wedi i'r nifer gynyddu cymaint â 25% o bosib mewn rhai rhannau o Gymru.

Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru (CCC) yn dweud bod tua 1,000 wedi cael eu saethu'r gaeaf yma.

Mae'r mathau gwahanol o geirw wedi dod yn gymaint o broblem yng nghoedwigoedd Cymru fel bod camerâu nos arbennig yn cael eu cyflwyno i gadw golwg arnynt.

Dywedodd CCC y byddai'r camerâu newydd yn rhoi gwybodaeth hollbwysig am symudiadau'r ceirw yn y goedwig, ble mae'r anifeiliaid yn gallu niweidio llystyfiant a choed.

Yn ôl David Jam, swyddog rheoli bywyd gwyllt y comisiwn: "Rydym yn seilio'n cynlluniau difa ar yr effaith ar goedwigoedd, felly os ydyn ni'n gweld bod 'na lawer o weithgaredd dros gyfnod o flynyddoedd, rydyn ni'n gwybod bod 'na batrwm, a bod angen cynyddu lefel y difa.

"Pan fo'r goedwig yn adfywio i lefel sy'n gallu ymdopi â phoblogaeth dda o geirw yna gallwch dynnu 'nôl o ran y difa.

"Mae 'na gydbwysedd - dydyn ni ddim yn difa er mwyn difa.

'Cadw golwg yn gyson'

"Rydym yn cadw golwg yn gyson ar effaith y ceirw ar lystyfiant a choed."

Yn answyddogol, mae coedwigwyr yn amcangyfrif bod 'na rhwng 3,000 a 5,000 o geirw o bob math yn byw yng nghoedwigoedd Cymru.

Mae'n golygu y gall yr anifeiliaid hefyd gael effaith mewn ardaloedd trefol, o leoedd fel Coedwig Margam o arfordir Port Talbot draw at gwm Rhondda, a chyn belled i'r gogledd â Bannau Brycheiniog.

Mae 'na gynnydd hefyd yn nifer y ceirw sydd wedi'u gweld, ac mae hynny wedi arwain at gynnydd mewn hela anghyfreithlon.

Eglurodd Meurig Rees, o'r Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Brydeinig, nad oedd 'na reolau penodol ynglŷn â'u hela er eu bod yn rhywogaeth sy'n cael ei amddiffyn.

"Mae 'na dymhorau saethu pan ellwch chi un ai saethu'r gwryw neu'r fenyw, cyn belled â bod gennych dystysgrif gŵn a bod ceirw wedi'u cynnwys ar y dystysgrif.

"Mae'n rhaid i chi un ai gael hawliau saethu neu fod yn berchennog tir, wedyn gallwch fynd â difa ceirw."

Yn Y Bala, mae'r cigydd Haydn Edwards yn rheolaidd yn derbyn ceirw sydd wedi'u hela'n gyfreithlon, ond mae hefyd yn ymwybodol o gynnydd mewn masnach anghyfreithlon.

"Rydym fel arfer yn cael rhwng 80 a 90 o geirw pob blwyddyn drwy gynllun difa'r Comisiwn Coedwigaeth," meddai.

'Cig fwy trwchus'

"Rwyf wedi clywed y wardeniaid yng Nghoed y Brenin yn sôn bod 'na lawer mwy o botsian eleni."

Ond dydy o ddim yn synnu bod 'na gynnydd - mae cig carw'n boblogaidd iawn yn ei siop.

"Mae'n bendant yn flas gwahanol i gigoedd coch eraill fel cig eidion neu gig oen," meddai.

"Mae'r lefel colesterol yn is, mae'n gig fwy trwchus a does 'na ddim llawer o fraster ynddo."

Y gobaith yw y bydd y camerâu isgoch Reconyx coch, sy'n cael eu defnyddio am y tro cynta' ddydd Llun, nid yn unig yn cadw golwg ar y ceirw yng Nghymru, ond hefyd yn atal potswyr.

Bydd y camerâu wedi'u cuddio mewn coed yng Nghoedwig Glasfynydd ger Afon Wysg, Coed-y-Brenin ger Dolgellau, Coedwig Maesyfed, yn ogystal â Dyffryn Gwy.

Trwy gofnodi unrhyw symudiadau, bydd y camerâu'n casglu tystiolaeth am y niwed sy'n cael ei achosi gan yr anifeiliaid a photswyr.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.