Cyfarfod cyhoeddus i drafod llwybr drwy fynwent yng Nghaernarfon

Protestwyr ger Mynwent Llanbeblig Image copyright BBC news grab
Image caption Daeth tua 30 o bobl i brotestio y tu allan i Fynwent Llanbeblig fore Llun

Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal i drafod gwrthwynebiad i gynlluniau Cyngor Gwynedd i agor llwybr ar gyfer plant ysgol drwy fynwent.

Mae gwrthwynebwyr i'r cynllun yn honni y byddai agor llwybr drwy fynwent Llanbeblig yn tarfu ar lonyddwch y lleoliad.

Ond mae Cyngor Gwynedd yn honni bod angen y llwybr drwy'r fynwent er mwyn cynnig mynediad diogel i'r disgyblion i adeilad newydd Ysgol Yr Hendre.

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Feed My Lambs yng Nghaernarfon am 6pm ddydd Mercher.

'Gwrando ar bryderon'

Bydd Ysgol yr Hendre, a gostiodd £9.3 miliwn i'w chodi, yn agor ym mis Mawrth.

Dydd Llun roedd tua 30 o brotestwyr y tu allan i'r fynwent.

Dywed teuluoedd y rhai sydd wedi eu claddu yn y fynwent y byddai'r cynllun yn amharu ar yr heddwch a'r tawelwch sydd yno.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod yn gwrando ar bryderon y gwrthwynebwyr.

"Bydd y cyngor yn gwneud popeth yn eu gallu i ymateb i'r pryderon lleol gan gynnwys sicrhau y bydd y glwyd yn cael ei chloi pan nad yw'r disgyblion yn ei defnyddio," meddai.

"Bydd y pryderon sydd wedi'u lleisio yn cael eu hystyried yn fanwl ac fe fyddwn ni'n parhau i arolygu'r defnydd o'r llwybr yn ystod y misoedd nesaf."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.