Cwmni o America am greu hyd at 50 o swyddi yng Nghaerdydd

Swyddfa Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Cwmni: 'Digon o weithwyr proffesiynol' yn yr ardal

Mae cwmni o America yn gobeithio creu hyd at 50 o swyddi wrth ddewis Caerdydd fel eu lleoliad cyntaf yn Ewrop.

Cynnig gwasanaethau i gwmnïau yswiriant mae DRIAS Transit ddewisodd y brifddinas am fod "digon o weithwyr proffesiynol".

Fe fydd eu canolfan ym Mharc Busnes Porth Celtaidd Bae Caerdydd.

Mae Edwina Hart, Gweinidog Busnes Llywodraeth Cymru, wedi croesawu'r cynllun gafodd £162,000 oddi wrth Gronfa Hwb Economaidd y llywodraeth.

"O bosib hwn yw buddsoddiad cynta cwmni o America yng Nghymru ers mwy na phum mlynedd," meddai.

'Enw da'

"Mae DRIAS yn cael ei gydnabod yn America fel y prif ddarparwr gweinyddol ar gyfer cwmnïau yswiriant.

"Ac mae'r penderfyniad i leoli eu canolfan gyntaf yn Ewrop yng Nghaerdydd yn adlewyrchu enw da'r ardal o ran gwasanaethau ariannol a phroffesiynol."

Y llynedd cyhoeddwyd y dylid creu parthau penodol ar gyfer y math hwn o wasanaethau a Chaerdydd yw'r unig ddinas yn y Deyrnas Gyfunol â pharth penodol.

'Lleoliad gwych'

Ar y cychwyn, fe fydd y cwmni yn creu 30 o swyddi ond o fewn dwy flynedd y gobaith yw ehangu i 50 o swyddi.

"Mae Caerdydd yn lleoliad gwych ar gyfer ein busnes Ewropeaidd," meddai llywydd y cwmni, Dick Votel.

"Fe wnaethon ni ystyried sawl gwlad ar draws Ewrop. Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth Llywodraeth Cymru."

Mae'r pencadlys yn Minneapolis, Minnesota.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.