150 mewn cyfarfod cyhoeddus yn Llanrwst i drafod archfarchnad

Roedd tua 150 o bobl mewn cyfarfod cyhoeddus yn Llanrwst nos Fercher yn trafod y posibilrwydd y gallai archfarchnad Tesco ddod i'r dref.

Trefnwyd y cyfarfod gan yr AC lleol Janet Finch-Saunders a chwmni o'r enw CPG sydd am ddatblygu'r safle yn y dref.

Yn ôl Deiniol ap Dafydd, sy'n rhedeg siop fwydydd Blas ar Fwyd: "Dwi'n holi os oes gwir angen Tesco yn Llanrwst pan mae Tesco mawr newydd yn cael ei datblygu yng Nghyffordd Llandudno, ryw 15 munud i ffwrdd."

Dywedodd mai tua 3000 oedd maint poblogaeth Llanrwst a'i fod yn pryderu am effaith archfarchnad.

Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Clywodd y cyfarfod mai cwmni CPG oedd am ddatblygu'r safle

"Dwi'n gweld hi'n drist bod Tesco yn cael dod i drefi marchnad Cymru tra bod trefi marchnad Lloegr yn cael eu gwarchod erbyn hyn achos bod cynghorau Lloegr wedi gweld y colledion cymdeithasol sydd yn dod efo datblygiad yr archfarchnadoedd."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: "Mae'n hen hanes bod y cyngor yn ystyried ailddatblygu ardal Plas yn Dre yn Llanrwst.

"Mae'n debygol y bydd datblygiadau a chyfleoedd yn y dref o ganlyniad i hynny a bydd ymgynghori arnynt ar yr adeg briodol."

Roedd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn yr Eagles yn Llanrwst.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.