Gyrrwr fan yn cael triniaeth ar ôl gwrthdaro â thrên

Y fan ben i'w waered wedi'r gwrthdrawiad ar groesffordd ger Llanbrynmair Image copyright Other
Image caption Cafodd dyn ei ryddhau o'r fan ar ôl y gwrthdrawiad

Cafodd gyrrwr fan ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau i'w frest a'i wddf wedi gwrthdrawiad rhwng trên a fan yn y canolbarth.

Roedd y fan, o eiddo cwmni B D Atkins Dairy Engineers, wyneb i waered ger y cledrau ar ôl y gwrthdrawiad ar Groesffordd Pikins ger Llanbrynmawr am 12.35pm ddydd Iau.

Cafodd Daniel Bellis, 36 oed, driniaeth gan barafeddygon ar y safle cyn cael eu gludo i'r ysbyty gan yr ambiwlans awyr i Ysbyty Brenhinol Yr Amwythig.

Does 'na ddim adroddiadau bod teithwyr ar y trên wedi cael eu hanafu ond roedd gyrrwr y trên mewn sioc.

Y trên oedd un Arriva Cymru 10.09am o Birmingham i Aberystwyth ac roedd gwasanaeth bws yn rhedeg rhwng Yr Amwythig a Machynlleth am gyfnod.

Disel

Bu'r cledrau ar gau tan 3.40pm a gwasanaeth bws yn cludo teithwyr trên rhwng Yr Amwythig a Machynlleth.

Roedd pedair injan dân, dwy o'r Drenewydd, un o Fachynlleth ac un o Lanidloes, wedi cael eu hanfon.

Bu'r diffoddwyr yn delio gydag olew disel sydd wedi gollwng.

Image copyright Other
Image caption Fe ddigwyddodd y ddamwain ar groesffordd Pikins ger Llanbrynmair amser cinio ddydd Iau

Yn ôl Heddlu Trafnidiaeth Prydain, mae'r groesffordd yn cael ei rheoli drwy i'r rhai sydd am groesi ffonio ymlaen llaw, ac roedd y ffôn yn gweithio.

Rhan o'r ymchwiliad fydd i weld a gafodd galwad ffôn ei gwneud cyn y ddamwain.

Wnaeth y trên ddim gadael y cledrau.

Dywedodd perchennog B D Atkins Dairy Engineers o Landrinio, Ralph Atkins, ei fod yn aros am newyddion am Mr Bellis.

"Mae'r difrod i'r fan yn ddim o'i gymharu ag anafiadau Daniel.

"Dwi'n aros am newyddion ac yn croesi bysedd mai mân anafiadau ydyn nhw."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.