Sianel Gymraeg newydd ar y we gan Gymdeithas yr Iaith

Logo Sianel 62 Image copyright Other
Image caption Fe fydd y sianel yn darlledu am ddwy awr bob wythnos

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio sianel deledu Gymraeg nos Sul.

Maen rhan o ddathliadau 50 mlynedd y mudiad yn ddiweddarach eleni.

Fe fydd Sianel 62 yn cael ei darlledu ar y we rhwng 8pm a 10 pm.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, eu bwriad yw creu sianel ifanc ei naws.

"Ein bwriad yw dangos rhaglenni heriol, gwleidyddol, doniol, dychanol, dwys ac ysgafn bob nos Sul," meddai'r trefnwyr.

Mae'r Gymdeithas wedi sefydlu dau hwb i'r sianel, yng Nghaerdydd a Chaernarfon, ar gyfer y prosiect a darperir hyfforddiant ac offer i bobl sydd am gyfrannu ati.

"Mae hwn yn brosiect, nid yn unig i ddathlu 50 mlynedd y Gymdeithas, ond hefyd yn brotest yn erbyn diffyg rhaglenni heriol am y Gymru gyfoes ar hyn o bryd," meddai Cydlynydd Sianel 62 Greg Bevan.

'Pwerus'

"Mi fydd y sianel yn cynnig llwyfan newydd i leisiau amgen ac unigryw sydd yn tueddu cael eu hanwybyddu gan y darlledwyr traddodiadol.

"Sianel 'ifanc ei naws' fydd hi a phobol gyffredin yn y gymuned fydd yn datblygu'r syniadau a chynhyrchu'r rhaglenni o dan arweinyddiaeth tîm proffesiynol.

"Wrth gwrs, gall sianel deledu fod yn fecanwaith dylanwadol a phwerus iawn, felly mae hwn yn gyfle digynsail i sefydlu'r strwythurau i rywbeth gall fod yn ganolog i waith y Gymdeithas am flynyddoedd i ddod."

Ychwanegodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod hyn yn fenter gyffrous iawn.

"Mae 'na groeso i unrhyw un gymryd rhan.

"Fe fydd lleisiau a chynnwys gwleidyddol a dychanol na allwch weld ar y sianeli teledu presennol."

Yn ystod y misoedd nesaf fe fydd nifer o ddigwyddiadau i ddathlu 50 mlynedd ers sefydlu'r Gymdeithas yn haf 1962.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.